Logo YouVersion
Eicon Chwilio

P[rofi Cyfeillgarwch gyda DuwSampl

Experiencing Friendship With God

DYDD 4 O 5

Cyfeillgarwch dros Berffeithrwydd

Mae cariad, llawenydd, tangnefedd, amynedd, caredigrwydd, haelioni, ffyddlondeb, addfwynder, a hunanreolaeth - ffrwyth yr Ysbryd - i gyd yn briodoleddau yr ydym yn ymdrechu amdanyn nhw. Dŷn ni’n trio dod â rhain i’r wyneb trwy ein hewyllys da a'n hunanddisgyblaeth ein hunain. Ac eto, yn ôl Galatiaid 5:22-23, gwaith yr Ysbryd Glân yw creu’r ffrwyth hwn, tra mai ein gwaith ni yw byw gam wrth gam gydag e. “Felly os ydy’r Ysbryd wedi rhoi bywyd i ni rhaid i ni adael i’r Ysbryd ein harwain ni.” (Galatiaid 5:25).

Mae gwir drawsnewidiad ysbrydol yn dechrau gyda chyfeillgarwch dilys. Dydy e ddim yn ymwneud â dod neu gyflawni. Mae'n ymwneud â bod gyda'r Ysbryd Glân.

Wrth i'r cyfeillgarwch ddod yn fwy cyfoethog, rwyt ti'n dechrau ei adnabod y tu hwnt i'w gymeradwyaeth neu ei anghymeradwyaeth. Rwyt ti'n dechrau deall ei galon. Rwyt ti'n gwybod beth sy'n ei boeni ac yn ei ddiffodd. Rwyt ti'n dechrau amgyffred ei bersbectif a gweld pethau o'i safbwynt e. Dydy dy awydd i newid bellach ddim yn ffrwyth rhwymedigaeth neu gywilydd ond yn hytrach o gariad.

Does dim rhaid ti ymdrechu i gael y darlun eithaf o berffeithrwydd. Yn lle hynny, gelli di ganolbwyntio ar stiwardio'r union foment hon gyda Duw. Ac ar ôl i'r union foment hon fynd heibio, rwyt ti'n canolbwyntio ar y nesaf.

Ym mhob penderfyniad, rwyt yn gwrando ar ei gyngor. Yn ystod pob colled, rwyi'n galt taru gyda'r Helpwr bythol bresennol. Pan fyddi di'n methu, rwyt ti'n edifarhau ac yn trystio yn yr Eiriolwr. Mae pob eiliad yn gyfle i ryngweithio o ryw fath oherwydd ei fod ar gael, yn hygyrch ac yn garedig.

Nid oes yn rhaid i ti ystyried popeth y mae'n rhaid i ti ei wneud, ond yn hytrach canolbwyntio ar yr hyn y mae'n dy arwain i'w wneud ar hyn o bryd. Hyd yn oed pan fydd tasg yn teimlo'n amhosibl i'w chyflawni, rwyt ti'n anadlu ac yn deisebu e am gryfder goruwchnaturiol. Mae cronni'r eiliadau hyn yn cynhyrchu ffrwyth yr Ysbryd! Wrth i ti fynd ag gydag e o ennhyd i ennyd a cham wrth gam, bydd e’n adeiladu dy gymeriad ac yn siapio dy galon.

Ym mha ffyrdd wyt ti wedi bod yn edrych ar y bywyd Cristnogol fel crwsâd o gyflawniad personol? Sut byddai'n newid pethau i edrych yn lle hynny ar drawsnewid ysbrydol o ganlyniad i fyw mewn perthynas â Duw?

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Experiencing Friendship With God

Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/726243/experiencing-friendship-with-god-by-faith-eury-cho/