Logo YouVersion
Eicon Chwilio

P[rofi Cyfeillgarwch gyda DuwSampl

Experiencing Friendship With God

DYDD 1 O 5

Anialwch yr Enaid

O nawr hyd y nefoedd, bydd realiti llym bywyd yn herio dy resymau dros gredu yn Nuw. Byddi di’n methu, ac weithiau bydd pobl eraill yn dy siomi. Bydd cynlluniau'n methu. Bydd y drysau'n cau, heb unrhyw arwydd o agor eto. Fydd amgylchiadau ddim yn newid o’th blaid di, ac efallai na fydd rhai pobl byth yn newid. Efallai dy fod ti mewn tymor aros, neu efallai tymor llethol. Os bydd hyn yn para ddigon hir i ti, yna gallet ti gael dy ddadrithio, gyda dy ffydd wedi llosgi allan.

Dyma anialwch yr enaid.

I‘r Israeliaid yr Exodus, doedd anialwch Sinai ddim yn heic ar hyd llwybr golygfaol o wyrdd melys, gyda machlud y gallet ti ei ddal ar gyfer Instagram. Na, roedd yr anialwch yn dir diffaith arswydus gyda siawns annhebygol o oroesi. Roedd yn rhanbarth digroeso gyda gwres dychrynllyd a thiroedd diffaeth. Byddai'n anodd meithrin breuddwyd yno ac yn anoddach fyth canfod pwrpas.

Dydy anialwch yr enaid yn ddim gwahanol. Pan fyddi ynddo, rwyt ti'n teithio ar dir digalondid. Pan fyddi di'n crwydro dy hun, ychydig, os neb o gwbl, fydd yn deall dy daith yn llawn. Byddi di’n dod yn fwy cyfarwydd â phoen na chynnydd, gyda dryswch nac unrhyw weledigaeth.

Mae rhai yn dweud bod poen yn dy wneud ti yn gryfach, ond mae hyn yn ystyrdeb disynnwyr i rywun sydd wedi eu draenio o nerth wrth grwydro. Gallet ti fod yn un sy'n naturiol sicr ohonot ti dy hun, ond yn yr anialwch gallet ti wynebu ansicrwydd brawychus. I wneud pethau yn waeth, fedri di ddim bod yn siŵr pryd y daw hyn i ben.

Crwydryn annwyl, beth os nad pwrpas yr anialwch yn y pen draw yw dy wneud ti yn well, neu i ti gyrraedd rhywle? Er y gall sancteiddhad yn wir fod yn gynnyrch sy’n dod yn sgil cerdded trwy dymor yr anialwch, nid poen y daith yw unig fodd creulon i'r nod hwnnw. Yn hytrach, pwrpas yr anialwch yw adnabod presenoldeb Duw - a chyfeillgarwch agos, dilys, ac angerddol ag e, yw’r wobr.

Mae’r llyfr Exodus yn dweud “Byddai’r ARGLWYDD yn siarad wyneb yn wyneb gyda Moses, fel byddai rhywun yn siarad â ffrind. .” (33:11). Beth fyddai'n ei olygu i ti deimlo mai Duw yw dy Ffrind?

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Experiencing Friendship With God

Wyt ti'i'n profi tymor anialwch, heb ddod o hyd i ddŵr na hafan i'th enaid? Beth petai gan y tymor hwn y gobaith mwyaf oll: i adnabod Presenoldeb Duw yn agos, yn ddilys, ac yn angerddol? Mae'r defosiwn hwn yn dy annog nad yw'r amser hwn yn cael ei wastraffu, er y teimli rai dyddiau nad wyt yn mynd i unman. Oherwydd waeth pa dir bynnag wyt ti'n ei droedio, mae Duw yn teithio gyda thi fel Cysurwr, Rhoddwr Bywyd, a Chyfaill.

More

Hoffem ddiolch i WaterBrook Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://waterbrookmultnomah.com/books/726243/experiencing-friendship-with-god-by-faith-eury-cho/