Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl
Mae'n Bwysig i Dduw
Gallwn weddïo am unrhyw beth. Fel mae Christine Caine yn dweud, “Os yw o bwys i ti, mae o bwys i Dduw.” Os yw'n rhywbeth dŷn ni'n â gofal amdano neu'n poeni amdano, mae'n rhywbeth y gallwn ni weddïo amdano.
Mae Paul yn ein hannog ni yn Philipiaid 4:6-7,
"Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser. Byddwch chi’n profi’r heddwch perffaith mae Duw’n ei roi - y daioni sydd tu hwnt i bob dychymyg - yn gwarchod eich calonnau a’ch meddyliau wrth i chi ddilyn y Meseia Iesu.” (beibl.net) .
Am beth y gallwn ni weddïo? Mae ateb Paul yn glir: popeth! Does dim yn rhy fach o ran Duw. Gall geiriau “Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi,” deimlo fel pe na baent yn cydymdeimlo ag unrhyw anhawster a wynebwn, mae'n bwysig nodi fod Paul wedi sgwennu’r geiriau hyn tra yn y carchar.
Doedd o ddim yn dweud wrthym mai “Peidiwch â phoeni, byddwch yn hapus” ddylai ein slogan fod. Byddai anwybyddu neu leihau realiti ein hamgylchiadau yn anghyfrifol. Ond mae yna lwybr i ni brofi heddwch a nerth Duw yng nghanol ein gofid a’n straen, a dyna pam mae Paul yn ein hannog i “ofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen.” Ydy, mae Duw yn cymryd rhan weithredol yn y gwaith o ofalu am y bydysawd cyfan a materion mawr y byd, ond mae ein Tad Nefol gyda’r un pryder a chonsyrn am fanylion bywydau ei blant: ein gwaith, perthnasoedd, teimladau, ofnau a gweithgareddau bob dydd..
Mae Duw yn dy weld di, mae Duw yn dy adnabod di, ac mae Duw yn wir yn gofalu amdanat ti.
Os yw rhywbeth o bwys i ti, mae o bwys i Dduw. Felly, gweddïa amdano!
Gweddi:
O Dad, diolch dy fod yn poeni am fwydo adar a thrin lilïau, a dim ond ffracsiwn yw hynny o faint rwyt ti'n poeni am fanylion fy mywyd a'r pethau sydd ar fy nghalon. Heddiw, rwyf yn enwi o'th flaen y pethau sy'n cael fy sylw: dangosa dy ddoethineb, dy bresenoldeb a'th bŵer yn y meysydd hyn. A dw i'n gofyn, yn union fel y mae’r pethau sy'n bwysig i mi, yn bwysig iti, y byddi di'n siapio fy sylw a'm hoffter tuag at bethau sy'n bwysig i ti. Deled dy Deyrnas ar y ddaear, yn union fel y mae yn y nef. Amen.
Mae hawlfraint © 2023 ar y cynllun darllen hwn gan Propel Women, rhan o Equip & Empower Ministries. Oni nodir yn wahanol, mae pob dyfyniad o’r Ysgrythur wedi’i gymryd o’r Christian Standard Bible®, Hawlfraint © 2017 gan Holman Bible Publishers. Defnyddir gyda chaniatâd. Mae Christian Standard Bible® a CSB® yn nodau masnach gofrestredig Holman Bible Publishers.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.
More