Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd; o ble y daw cymorth i mi? Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD, creawdwr nefoedd a daear. Nid yw'n gadael i'th droed lithro, ac nid yw dy geidwad yn cysgu. Nid yw ceidwad Israel yn cysgu nac yn huno. Yr ARGLWYDD yw dy geidwad, yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw; ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd, na'r lleuad yn y nos. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg, bydd yn cadw dy einioes. Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddod yn awr a hyd byth.
Darllen Y Salmau 121
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Y Salmau 121:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos