Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl
Mae Gweddi yn Tanio Ein Ffydd
Pan welwn anghenion a chyfleoedd mawr y byd, gall fod yn demtasiwn i guddio oddi wrthyn nhw neu feddwl bod yn rhaid inni brysuro i'w datrys. Ond dŷn ni eisiau ymateb mewn ufudd-dod a ffydd a gwneud yr hyn y dwedodd Iesu wrthon ni am ei wneud wrth wynebu her “cynhaeaf mawr heb lawer o weithwyr”, a dyna ddylid gweddïo gyntaf. Gweddïwn yn eofn a dyfal ar i Arglwydd y Cynhaeaf wneud yr hyn wnaeth e ei addo i’w wneud:: Anfon gweithwyr allan. I’n hannog ni.
Mae gweddi yn rhyddhau ei rym, ei bresenoldeb, a'i ddarpariaeth yn ein bywydau.
Mae’n rhyfeddol ein bod ni hyd yn oed yn gallu dweud y geiriau, “Ein Tad,” fel y gwelwn yn Mathew 6:9. Mae Duw yn sanctaidd ac yn anhygoel ym mhob ffordd, ac eto fe hefyd yw ein Tad, sydd nid yn unig yn ein gwahodd i siarad ag e ond hefyd i nesáu at orsedd ei ras (Hebreaid 4:16). Mae Duw yn ein caru ni â chariad tragwyddol - yn gymaint felly nes iddo roi ei Fab droson ni (Ioan 3:16).
Pan dŷn ni’n gweddïo ar Dduw yn enw Iesu, dydyn ni ddim yn gweddïo ar ryw bŵer cosmig amhersonol neu ddiddordebau. Mae wedi cyfri gwallt dy ben di.. Roedd yn gwybod dy dynged cyn i ti gymryd dy anadl gyntaf. Wnaeth e dy ddewis di ac yn dy gymeradwyo. Dyna faint mae'n dy garu di, a dyna pam mae’n gwrando o ddifri pan fyddi di'n gweddïo!
Wrth inni ymrwymo i weddïo am gynhaeaf o faint y deyrnas, gan enwi anghenion y byd yn ogystal â’n hanghenion ni, mae Duw yn tanio ein ffydd ein hunain. Y mae ei Ysbryd e ar waith ynom ni, trwom ni, a tuag atom wrth weddïo, yn ein hatgoffa ein bod yn fwy na deisebwyr ufudd ger ei fron e, yn bartneriaid annwyl ag e.
Gweddi:
O Dad, diolch i ti dy fod yn fy ngharu i ac yn gwrando pan fydda i'n gweddïo. Diolch am ateb gyda phŵer, amseriad, a daioni perffaith. Dw i’n gosod o'th flaen y rhai yn fy nheulu a'm cymuned nad ydynt nhw’n dy adnabod ac yn gofyn iti anfon pobl i'w bywydau i gyhoeddi Iesu iddyn nhw. A dw i’n gweddïo y byddi’n fy anfon â doethineb a hyder i ble bynnag rwyt yn fy ngalw i weddïo neu i siarad am yr hyn a wnaethost. Amen.
Am y Cynllun hwn
Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.
More