Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl
Chwe Ffordd i Weddïo
Pe bae ti'n gwneud chwiliad rhyngrwyd am “sut i weddïo,” byddet ti'n dod o hyd i gannoedd, os nad miloedd, o farn, arferion, ac egwyddorion gweddi. Nid oes un ffordd gywir i weddïo, ond dyma rai canllawiau defnyddiol:
Gweddïa ar yr un amser bob troaar amrantiad.
Mae'n bwysig cael amseroedd wedi'u hamserlennu gyda Duw yn ogystal ag eiliadau ar amrantiad. Ble bynnag y gelli di, gweddïa!
Gweddïa Ar dy ben dy Huna Gydag Eraill
Pan dŷn ni'n cael amser caled i glywed llais Duw, mae'n ddefnyddiol cael ffrindiau sy'n gallu gweddïo gyda ni. Yn y Beibl, gwelwn Dduw yn cyfarfod â phobl mewn gweddi yn unigol (Mathew 6:6), wrth iddynt weddïo gyda'i gilydd (Mathew 18:20), ac yng nghymdeithas yr eglwys (Actau 2:42).
p>
Gweddïa’n DawelacYn Uchel
Siarada’n uchel wrth weddïo, hyd yn oed wrth weddïo ar ben dy hun. Gall deimlo'n debycach i sgwrs go iawn, ac mae gennyt ti fwy o bwyntiau cysylltu â'th eiriau wrth i ti eu meddwl, eu siarad, a'u clywed.
Gweddïa â'th FeddwlaChorff
Yn y Beibl, gwelwn enghreifftiau o bobl yn gweddïo yn gorwedd wyneb i waered ar lawr, ar eu gliniau, yn eistedd, yn sefyll, neu â dwylo wedi'u codi. Gall newid osgo ein helpu i aros yn bresennol a chysylltu â Duw mewn gweddi.
Gweddïa dy eiriau dy Huna Geiriau Eraill
Mae gweddïo weithiau'n gorlifo ein meddyliau a'n dymuniadau ein hunain wrth i ni eu mynegi i'r Tad; ond trwy gydol hanes yr eglwys, mae credinwyr hefyd wedi gweddïo gweddïau a sgwennwyd gan eraill (a elwir weithiau yn litwrgi). Mae gweddïo’r Salmau neu Weddi’r Arglwydd yn enghreifftiau o hyn yn y Beibl.
Gweddïa Wrth Anadlu
Wedi'i alw'n “weddïau anadl” gan lawer, mae hwn yn arfer sydd wedi'i gynllunio i helpu i ganolbwyntio ar ymadroddion gwirionedd o'r Ysgrythur: un ar anadlu i mewn, ac un arall ar anadlu allan gan ei adael i'r Ysbryd Glân lenwi'r bylchau yn union fel y mae wedi addo gwneud (Rhufeiniaid 8:26).
Gweddi:
- Dw i'n credu (anadlu i mewn). Helpa fy anghrediniaeth (anadlu allan).
- Rwyt ti gyda mi ar hyn o bryd (anadlu i mewn). Diolch (anadlu allan).
- Dw i'n teimlo'n anweledig (anadlu i mewn). Diolch dy fod ti'n fy ngweld i (anadlu allan).
- Ti wnaeth fy nghorff (anadlu i mewn). Byddaf yn ei anrhydeddu ac yn gofalu amdano (anadlu allan).
- Mae hyn yn galed (anadlu i mewn). Arhosaf i weld ôl dy law, Arglwydd (anadlu allan).
Am y Cynllun hwn
Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.
More