Tanio: Arweiniad Syml i Weddi HyderusSampl
Mae Gweddi yw'r Flaenoriaeth
Yn Mathew 9:37-38, dwedodd Iesu,
“ Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwyddy cynhaeaf ianfon mwy o weithwyr i’w feysydd. (Beibl.net, ychwanegwyd pwyslais).”
Mae’r gair am “anfon mwy” mewn Groeg yn golygu “gwthio”. Sefydlwyd Propel Women ar yr adnod hon. Felly wrth inni geisio tanio ein gweddïau, dŷn ni'n mynd i wneud yn union yr hyn a orchmynnodd Iesu: dŷn ni'n mynd i weddïo ar Arglwydd y cynhaeaf i anfon gweithwyr allan - i'n gyrru - i'w gynhaeaf. Mae'r cynhaeaf mor fawr. Mae’r cyfle i Deyrnas Dduw symud ymlaen yma nawr. Beth yw'r allwedd i'w weld yn digwydd? Gweddi!
Yn syml, mae gweddi yn golygu siarad â Duw. Gall fod yn sgwrs sy'n digwydd yn dy galon neu'n uchel. Gall ddigwydd ar ei ben ei hun neu mewn grŵp. Gall ddigwydd gyda'n traed wedi'u plannu'n gadarn ar y ddaear, neu filoedd o droedfeddi i fyny yn yr awyr. Ond dyma'r peth anhygoel: Wrth inni weddïo, mae Duw yn gwrando, yn siarad, ac yn ymateb.
Mae Duw'r Bydysawd eisiau clywed gen ti. Nid yn unig y mae Duw wedi cychwyn sgwrs a’n gwahodd i siarad ag e mewn gweddi, ond mae hefyd yn integreiddio ein gweddïau i'r gweithredoedd y mae'n eu gwneud yn y byd!
Lle bynnag wyt ti, beth bynnag fo'th gefndir, waeth beth fo'th ddylanwad - yn y farchnad, fel mam aros gartref, Prif Swyddog Gweithredol, meddyg, athro, myfyriwr, cyfreithiwr, neu artist - gweddi yw'r prif fan lle mae gwaith Duw a'th waith di yn y byd hwn yn dod at ei gilydd. Wrth inni weddïo, mae Duw wedi addo symud mynyddoedd, ysgwyd sylfeini, a chyrraedd y cynhaeaf mawr o bobl nad ydyn nhw eto wedi dod i'w adnabod. Mae Duw wedi ei gwneud yn felly fel bod ein gweddïau bychain yn gwneud gwahaniaeth tragwyddol i faint y deyrnas! Mae Duw yn newid y byd trwy ei nerth a thrwy ein gweddïau!
Gweddi:
Arglwydd, dw i’n gweddïo y byddaf I, flwyddyn hon, Yn dy weld yn symud mewn grym i ddod â phobl atat ti dy hun. Yn ôl dy air yn Mathew 9:37-38, bydded mwy o weithwyr yn cael eu gyrru i’r cynhaeaf nag erioed o’r blaen. Bydded i'r dyddiau sydd i ddod, gael eu nodi gan gynhaeaf mawr i gyd er mwyn dy ogoniant a dyrchafiad dy deyrnas yma ar y ddaear. A dw i’n ymrwymo i ti nawr y byddaf yn rhan ohono. Amen.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.
More