Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 2 O 21

Tynnu Sylw

Heddiw, dŷn ni'n canolbwyntio ar gael gwared ar gymaint o bethau yn y byd sy’n tynnu sylw. Allwn ni ddim dilyn Duw a'i ewyllys yn llawn am ein bywydau a chael bywyd llwyr, llawn ysbryd os ydy ein sylw’n cael ei dynnu’n byth a hefyd.

Yn Philipiaid 4:8, mae Paul yn rhoi cyfarwyddiadau i eglwys Philipi am yr hyn y dylen nhw feddwl amdano. Er nad yw'r darn hwn ond yn mynd i mewn i'r hyn yr oedd am i'r eglwys fyfyrio arno, mae modd dyfalu beth oedd ddim ar y rhestr. Nid yw straen, gorbryder, ofn a phryder i’w cael yn unman ar restr Paul. Yn lle hynny, dwedodd wrthyn nhw i ffocysu ar yr hyn sy'n wir, yn anrhydeddus, yn bur, yn hyfryd, yn gymeradwy, ac yn gywir. Pan fyddwn yn cymryd y cam hwn, dŷn ni un cam yn nes at feddwl y ffordd y mae Duw yn ei ddymuno ac amddiffyn ein hunain rhag pethau sy’n tynnu sylw.

Yn Ioan 17:17, dŷn ni’n gweld Iesu’n gweddïo dros ei ddisgyblion. Mae e’n gofyn i Dduw gysegru nhw i’w hun drwy’r gwirionedd. A beth mae e’n mynd yn ei flaen i alw gwirionedd Duw? Ei Air. Mae hyn yn rhoi cipolwg i ni ar yr hyn yr oedd Paul yn sôn amdano pan ddwedodd wrth eglwys Phillipi am fyfyrio ar beth bynnag sy'n wir.

Dŷn ni i fod i fyfyrio ar wirionedd Gair Duw. Pan fydd hyn yn flaenoriaeth yn ein bywydau, fydd pethau'r byd hwn ddim yn tynnu ein sylw mor hawdd. Mae hwn yn gam annatod i fyw bywyd sy’n gorlifo llawn Ysbryd.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/