Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio gweledigaethSampl

Visioneering

DYDD 7 O 7

"Cyflawni dy Dynged"

Yn fy llyfr Visioneering, dw i'n defnyddio'r ffigwr Beiblaidd hwnnw, Nehemeia, i ddarlunio mynd ar drywydd gweledigaeth dy fywyd yn effeithiol. Cododd Nehemeia dinas Jerwsalem yn ôl ar ei thraed ac i weithredu fel y dylai. Trefnodd y. bobl i ailadeladu waliau'r ddinas. Sefydlodd ddiwygiad cymdeithasol ac ysbrydol. Cafodd y deml i weithredu eto. Ac fe argyhoeddodd y bobl i gadw'r Saboth fel y bwriadodd Duw.

Fel dw i wedi dweud, mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Cyrhaeddodd Nehemeia le mewn bywyd, ar bwrpas.

Yna, ar ôl gweithredu ar ei weledigaeth, gofynnodd i Dduw i'w gofio gyda ffafr. Mae hyn yn dangos fod ganddo synnwyr o dynged. Chollodd e erioed olwg ar natur ddwyfol ac arwyddocâd ei waith.

Fel Nehemeia, mae gennyt dynged i'w chyflawni. Mae Duw wedi gosod ger dy fron gyfleoedd a chyfrifoldebau sy'n gorlifo gydag arwyddocâd ddwyfol. Mae e wedi rhoi i ti roddion, doniau a pherthnasedd sydd yn aros i gael eu hecsbloitio ar gyfer ei deyrnas. Mae gennyt ddarlun meddyliol amlochrog o ddyfodol ffafriol. Mae gennyt weledigaeth.

Ond, fel mae stori Nehemeia yn dangos, mae'n cymryd mwy na dychymyg ac angerdd i wneud beth allai; a dylai, fod, yn realiti. Mae ar weledigaeth angen mwy nac un cyffyrddiad â Duw. Ar gyfer hyd yn oed y syniadau hynny mae e wedi plannu yn dy galon, fydd gen ti mor arfau cywir, na'r momentwm fyddai ei angen i'w weld drwodd hyd at ei gwblhau.

Mae ceisio gweledigaeth yn hawlio amynedd, ymchwilio a chynllunio. Mae ceisio gweledigaeth yn hawlio hyder fod Duw yn gweithio yn y cefndir; hyder, y bydd e'n gweithredu ar yr hyn a blanodd.

Fe fydd yna dymhorau ble rwyt yn teimlo fel nad wyt yn gwneud unrhyw gynnydd. Yn y cyfnodau hynny byddai'n hawdd iawn i bethau eraill dynnu sylw. Dyma pryd y dylet ymuno gyda Nehemeia a dweud,
“Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod." (Nehemeia 6:3). P'un a yw dy weledigaethau'n canolbwyntio ar deulu, gweinidogaeth neu fusnes, mae angen sylw cyson arnynt. Arhosa wedi dy ffocysu.

Yn bwysicach na dim, cofia fod yna botensial ddwyfol yn y cwbl mae Duw wedi'i blannu yn dy galon i'w wneud. Pen draw gweledigaeth a ordeiniwyd gan Dduw yw Duw. Ei ogoniant yw'r agenda eithaf. Caniata dy Dad nefol i ecsbloetio'r gweledigaethau rwyt yn mynd ar eu trywydd er ei ogoniant.

Wrth iti weddïo a myfyrio, noda'r camau a'r heriau sydd o'th flaen yn union wrth geisio gwelwdigaeth. Yna, dos ati.

Clicia ymai ddysgu mwy am y llyfrVisioneering: Your Guide to Discovering and Maintaining Personal Vision gan Andy Stanley.

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Visioneering

Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreulio amser bob dydd am wythnos i feddwl a gweddïo drwy weledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a WaterBrook & Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2aq2GDf

Cynlluniau Tebyg