Ceisio gweledigaethSampl
"Goleudy yn y Tywyllwch"
Mae cynllun eithafol Duw ar gyfer dy fywyd yn cyrraedd tu hwnt i'r gweledigaethau mae wedi'u rhoi i ti ar gyfer dy deulu, busnes, gweinidogaeth, a chyllid. Mae wedi dy osod di yn dy ddiwylliant fel goleudy. Goleudy mewn byd sydd wir angen gweld rhywbeth dwyfol, rhywbeth, yn amlwg sydd ddim o'r byd hwn.
Uwchlaw a thu hwnt i'r cyflawniadau sy'n gysylltiedig â'th weledigaeth, mae am dynnu pobl ato'i hun. Mae yna bendraw cymaint mwy i'n gweledigaethau, sef gogoniant Duw ac iachawdwriaeth dynion a merched. Dyma ei brif nod, ei brif awydd.
Wyt ti erioed wedi gweddïo rywbeth fel hyn: "O Dad, gad i'm golau ddisgleirio gerbron pobl yn y fath fodd fel eu bod yn gweld fy ngweithredoedd da ac yn dy ogoneddu di."?
Dw i ddim yn clywed gweddïau fel yna yn aml. Mae ein gweddïau yn hofran yn agos at ein gweledigaethau a'n breuddwydion personol. Yn aml iawn dŷn ni'n ffocysu ein gweddïau ar gael Duw i fendithio rhywbeth, newid rhywun, neu i ganiatáu llwyddiant i ni gyda rhyw broject. Ac eto mae ganddo lawer mwy o ddiddordeb yng nghysondeb ein goleuni mewn amgylcheddau lle nad yw golau yn cael ei werthfawrogi. Mae ein holl brojectau, breuddwydion, a gweledigaethau yn ddim llai na chyfleoedd i'r Tad ddwyn sylw a phobl ato'i hun.
Pan wyt yn gweddïo dros dy deulu, paid â chyfyngu dy gais i "amddiffyn" a "bendithio". Gweddïa fod Duw yn sefydlu dy deulu fel golau yn dy gymuned. Gofynna iddo ddefnyddio dy perthnasoedd teuluol i ddenu sylw pobl eraill ato. Gofynna iddo ganiatáu i eraill ganfod elfen ddwyfol ym mywyd a ffordd o fyw dy deulu.
Pan fyddi'n gweddïo am lwyddiant mewn busnes a chyllid, gofynna i Dduw ei ganiatáu yn y fath fodd bod y rheiny tu allan i'r Ffydd yn talu sylw. Gweddïa y bydd pobl o'th gwmpas yn sylweddoli fod dy llwyddiant wedi'i gyflawni gyda chymorth dy Dduw.
Rwyt yma i fod yn olau yn y byd. Rwyt yn oleudy yn y nos dudew.
Mae'r llwyddiant mae Duw yn ei ganiatáu i ti ddim er dy fwyn di yn unig. Mae'n fodd i ddiwedd llawer mwy. Diwedd tragwyddol. Mae potensial dwyfol ym mhopeth a wnei.
Gwisga esgidiau angheredinwyr sydd yn dy fywyd. Beth maen nhw'n ei weld pan maen nhw'n sylwi sut rwyt ti yn byw dy fywyd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreulio amser bob dydd am wythnos i feddwl a gweddïo drwy weledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd.
More