Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio gweledigaethSampl

Visioneering

DYDD 2 O 7

"Yn Ysgol Duw"

Os welaist ti 'The Empire Strikes Back', falle dy fod yn cofio'r olygfa ble mae Luke eisiau mynd i achub ei ffrindiau cyn iddo orffen ei hyfforddiant i fod yn 'Farchog Jedi. Mae Yoda yn pledio arno i ddisgwyl, "Luke, mae'n rhaid iti orffen dy hyfforddiant"

Ond mae Luke wedi gweld y dyfodol, ac mae'n gwybod fod bywydau ei ffrindiau merwn perygl. Mae'n dweud, "Fedra i ddim anwybyddu'r weledigaeth. Fy ffrindiau i yden nhw; mae'n rhaid imi eu helpu."

Mae Yoda yn rhoi rhybudd erchrydus, "Os byddi'n gadael nawr, falle y byddet yn gallu eu helpu, ond byddi'n dinistrio popeth mae'n nhw wedi brwydro a dioddef drosto."

Er hynny, mae Luke yn benderfynol i fynd. Mae e wedi ymgolli ar beth allai a dylai fod fel ei fod yn teimlo rheidrwyd i fynd ar unwaith. Felly mae e'n mynd. Wyt ti 'n cofio beth ddigwyddodd? Mae popeth yn digwydd er gwell.

Ond mae hynny mewn galaeth ymhell bell i ffwrdd. Nôl yma, ble rŷm ni'n byw mae gweithredu cyn paratoi fel arfer yn golygu trychineb.

Yng nghyd-destun dy weledigaeth trefnus a dwyfol, mae Duw yn mynd ati i'th baratoi ar gyfer beth mae e'n wybod sy'n dy ddisgwyl. Fel Luke Skywalker, efallai dy fod yn teimlo rheidrwydd i ymateb yn syth fel ei bod yn ymddangos yn ffôl i ddisgwyl. Ond mae Duw yn sofran. Cofia hynny. Estyniad o'i welediugaeth e yw dy weledigaeth di. Mae ei amseru ef yn berffaith.

Am ychydig amser bydd Duw yn gweithio ynot i'th baratoi i ymateb i'w fwriadau. A dw i'n meddwl y gallwn dybio fod ei fwriadau yn unol â'i amserlen.

Mae'n anodd gwrando ar hyn yn tydi? Dw i'n gwybod. Dw i wedi clywed mai'r gŵyn sydd i'w chlywed amlaf gyda'r broses o geisio gweledigaeth yw, amseru Duw. Unwaith mae'r weledigaeth yn glir dŷn ni'n tybio ein bod yn barod. Fel arall, pam fyddai wedi rhoi'r weledigaeth i ni yn y lle cyntaf?

Paid bod yn ddiamynedd. Paid symud cyn i Dduw arwain. Derbynia ei hyfforddiant a'i amseru. Yn y cyfamser, bydd dy weledigaeth, er efallai'n llosgi o'th fewn, yn dy alluogi i oroesi'r disgwyl, oherwydd rwyt yn gwybod ei bod yn werth ei wneud yn iawn.

Mae gweledigaeth wastad yn dod cyn paratoi. Yn y lle cyntaf bydd dy weledigaeth yn rhagori ar dy gymhwysedd. O fewn cyd-destun y tensiwn hwnnw, bydd Duw yn mynd ati i weithio o'th fewn.

I'r fath raddau y gelli, ceisia adnabod sut mae Duw yn dy baratoi i gyflawni dy weledigaeth yn ddiweddarach.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Visioneering

Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreulio amser bob dydd am wythnos i feddwl a gweddïo drwy weledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a WaterBrook & Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/2aq2GDf

Cynlluniau Tebyg