Ceisio gweledigaethSampl
"Bendigol"
p>Mae yna rai pethau mae Duw yn dewis eu bendithio. Er enghraifft, ufudd-dod Ac mae yna bethau mae e'n gwrthod eu bendithio - anufudd-dod.Fel gweledydd, mae'n hanfodol dy fod yn aros yn fendigol. Mewn geiriau eraill, mae'n rhaid i ti lynu wrth, ac arwain dy dîm i lynu wrth, set o gredoau ac ymddygiad sy'n adlewyrchu daliadau'r Gair. Efallai fod dy fusnes neu weinidogaeth am ddatblygu defnydd ac ymddygiad penodol o'r daliadau sy'n eich gwahanu oddi wrth gystadleuwyr neu sefydliadau tebyg, ond dylai'r lleiafswm gofleidio'r safonau a nodir yn y Gair.
Mae 2 Cronicl yn dweud fod yr Arglwydd yn cefnogi'n gryf y rheiny y mae e'n berchen eu calonnau. Felly gad imi ofyn i ti: Pa mor bwysig yw e i ti fod Duw yn cefnogi'n gryf yr hyn rwyt yn ei wneud? Os yw e'n bwysig mae'n rhaid i Dduw fod yn berchen ar dy galon. Wrth gofleidio'r hyn sy'n bwysig iddo, bydd dy galon yn uniaethu ag ef. Pan mae e'n berchen ar dy galon rwyt yn gwbl bendigol.
Mae modd rhannu dy gredoau creiddiol i ddau ddosbarth, cyffredinol a phenodol.Cyffredinol- dyma gredoau ac ymddygiad y dylai pob crediniwr lynu iddyn nhw. Dylai pob crediniwr lynu wrth onestrwydd, purdeb, ac uniondeb, beth bynnag yw natur y weledigaeth.
Mae methu glynu wrth safonau cyffredinol o onestrwydd a phurdeb wedi achosi gweledigaethau dirifedi i chwalu. Mae oawb wedi gweld gweledigaethau'n cael eu difrodi gan gam-drin cyllidol a ble mae gwrthdaro perthynol heb ei ddatrys. Mae'r ddau beth yma, ynghyd â methiant moesol, yn cyfrif am bron bob gweledigaeth a fethwyd, y gwn amdani
Penodol - Dyma gredoau ac ymddygiad sy'n benodol ar gyfer dy weledigaeth dy hun. Fedra i ddim dweud beth fyddai rhain i ti. Bydd rhaid iti ddarganfod dros dy hun, gyda chymorth Duw.
Gad imi roi enghr\ifft i ti i esbonio. Flynyddoedd yn ôl, dewisodd Billy Graham i wrthod cydnabyddiaeth am anerchiadau personol. Roedd yr holl sieciau i'w gwneud i'r 'Billy Graham Association'. Dydy'r rheol yma ddim yn ymddangos yn y Gair, ond i Billy roedd yn safon bwysig er mwyn cynnal uniondeb ei weinidogaeth.
Wyt ti'n meddwl fod Duw wedi bod yn gryf o blaid Billy Graham? Yn sicr, mi rydw i. A dw i'n gwybod dy fod eisiau'r un fendith wrth fynd ar drywydd yr weledigaeth. Felly, gwna dy hun yn fendigol.
Trefna restr o gredoau cyffredinol a phenodol ac ymddygiad sy'n berthnasol i bob un o dy weledigaethau.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreulio amser bob dydd am wythnos i feddwl a gweddïo drwy weledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd.
More