Ceisio gweledigaethSampl
"Ynghlwm i'r Ffynhonnell"
Rhai blynyddoedd yn ôl teimlai Sandra a nifer o'i ffrindiau faich dros ferched ifanc ein heglwys. Gofynnodd Sandra os allen nhw ddechrau gweinidogaeth merched ble byddai'r merched hŷn yn mentora'r merched iau.
Ro'n i'n meddwl ei fod yn syniad gwych. Felly, dechreuais ofyn sut oedd am fynd ati i osod yr weinidogaeth yma yn ei lle.
Doedd ganddi ddim ateb i unrhyw un o'r cwestiynau, ond mi roedd ganddi ateb gwych. Atebodd, "Hoffen ni gymryd blwyddyn i weddïo a pharatoi."
Blwyddyn? Roedden nhw eisiau disgwyl blwyddyn gyfan cyn lawnsiad gweinidogaeth merched? Yng ngwaith yr eglwys mae hyn yn anarferol. Fel arfer, mae rhywun yn dechrau cyn eu bod yn barod. Mae'n cael cyhoeddusrwydd cyn rhoi staff yn ei le. Yna, mae yna flynyddoiedd o gwyno am ddiffyg ymrwymiad.
Ond am flwyddyn gyfan, gweddïodd a chynlluniodd Sandra a'i thîm. Ar ddiwedd y flwyddyn cafodd y cynllun gyhoeddusrwydd. O'r diwrnod cyntaf roedd hi'n amlwg fod Duw wedi rhoi strategaeth iddyn nhw. Eisteddais yn ôl mewn syndod wrth i'r tîm baratoi y meched hŷn yn ein cynulleidfa. Yna, yn amlwg gyda beth oedd yn arweiniad ddwyfol, parwyd y mreched iau gyda'r rhaI hŷn. Clywsom lu o storïau am sut oedd y paru yn berffaith.
Gwyddai Duw yn iawn sut i; lawnsio gweinidogaeth merched yn ein heglwys ni. Y cwbwl oedd ei angen oedd rhywun i gamu i'r bwlch a disgwyl am yr ogwydd gywir.
Nid yw gweledigaeth ddwyfol yn ddibynnol arnom ni'n achosi rhywbeth i ddigwydd. Mae'n ddibynnol ar Dduw yn achosi rhywbeth i ddigwydd. Esboniodd Iesu hyn i'w ddisgyblion yn nhermau canghenau'r yn aros yn y winwydden i ddwyn ffrwyth.
Mae yna demtasiwn i ni ateb, "Aros funud, mi fedra i wneud rhywbeth." Gwir. Ond dim byd o unrhyw ganlyniad tragwyddol.
Pan fyddwn yn defnyddio'n dyfeisgarwch ein hunain gallwn wneud llanast llwyr o'r weledigaeth. Ond bydd gwneud gwaith Duw, yn null ac amser Duw, yn llwyddiant bob amser. Ac mae'r canlyniad wastad yn arwain nôl at y ffynhonnell: Duw.
Meddylia am sut fyddai pethau'n edrych wrth aros mewn cysellt â Duw fel y gallai weithredu asr ewi weledigaeth, yn ôl ei gynllun e.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb yn cyrraedd rhywle mewn bywyd. Mae rhai pobl yn cyrraedd rhywle ar bwrpas - dyma'r rhai sydd efo gweledigaeth. Ceisio gweledigaeth yw chwilio am y llwybr i wneud breuddwydion yn realiti. Dyma dy wahoddiad i dreulio amser bob dydd am wythnos i feddwl a gweddïo drwy weledigaeth Duw ar gyfer dy fywyd.
More