Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl
Bydd lonydd: I mewn i'r byd
Yn aml, wrth i ni heneiddio, dŷn ni'n dechrau edrych yn debycach i'n rhieni!
Yn yr un modd, bydd y berthynas dŷn ni’n ei datblygu â Duw yn ein hamser tawel, yn y lle tawel, yn cael effaith ar sut dŷn ni’n byw ein bywydau.
Mewn geiriau eraill, ddylai’r hyn sy’n digwydd yn yr ardd ddim aros yn yr ardd - dylai fod yn weladwy yn y ffordd yr ydym yn byw. Po fwyaf o amser y byddwn yn ei dreulio gyda Duw, y mwyaf y byddwn yn dod yn debyg iddo; i raddau yr ydym yn dod yn adlewyrchiad ohono.
Yn yr amser tawel, dŷn ni’n anadlu Duw i mewn; dŷn ni’n cysylltu â'r dwyfol. Dŷn ni'n caniatáu i'w galon gyffwrdd â'n calonnau a dŷn ni'n dod yn gyfarwydd ag e. Wrth inni ddod yn gydnaws â chalon a dymuniadau Duw yn yr amser tawel, mae’n ehangu ein ffocws y tu hwnt i ni ein hunain a’r rhai sydd â’r cysylltiad mwyaf uniongyrchol â ni.
Yna ar ôl anadlu i mewn, rhaid inni hefyd anadlu allan. Meddylia amdano mewn ystyr naturiol - allwn ni ddim dal i anadlu i mewn heb anadlu allan hefyd. Dŷn ni'n iach, Dŷn ni'n fyw, pan dŷn ni'n gwneud y ddau!
Dwedodd Bob Pierce, sylfaenydd World Vision, unwaith, “Lord break my heart with what breaks yours.” Pan fyddwn ni wir yn cysylltu â chalon Duw yn ein hamser tawel, bydd yn torri ein calonnau dros ei fyd. Wrth i Dduw gyffwrdd â’n calonnau, efallai y bydd yn ein harwain at bobl neu sefyllfaoedd na allem brin fod wedi eu rhagweld.
Y comisiwn a roddwyd i’r disgyblion yn Mathew 28 oedd mynd i wneud mwy o ddisgyblion. Ond eto, y peth cyntaf wnaethon nhw ar ôl i Iesu esgyn i’r nefoedd oedd mynd i ystafell ddiarffordd a gweddïo. Daeth Ysbryd Duw yn nerthol, fe'u gyrrwyd allan o'r ystafell ddirgel, allan o'r lle tawel, i'r dyrfa lle wnaethon nhw gyhoeddi’r newyddion da am Iesu.
Ganwyd yr eglwys y diwrnod hwnnw.
Daeth hwn yn rhythm di-dor; Wnaethon nhw ddim gweddïo a dod ar draws yr Ysbryd Glân unwaith yn unig, fe ddigwyddodd dro ar ôl tro. Dyma genhadaeth, ein bod ni'n rhannu'r cariad dŷn ni wedi'i ddarganfod.
Gorlif naturiol o'r amser tawel fydd y byddi di’n ceisio gwneud mwy o ddisgyblion; siawns bod y cariad hwn a brofwn yn ormod i'w gadw i ni ein hunain? Mae hyn yn gyffrous ac yn frawychus; ar adegau fe allem fod eisiau aros yn ein gardd, gan fwynhau presenoldeb Iesu yn gyfforddus, yn ddisgybl iddo, yn dysgu ganddo.
Gweddi yw gweddi; dydy e ddim yn danwydd ar gyfer cenhadaeth na hyd yn oed strategaeth ar gyfer cenhadaeth. Ond dyma fan geni cenhadu bob amser.
Sut fedri dii rannu cariad Crist heddiw?
Sut fedri di adlewyrchu dy Dad nefol i eraill?
I brynu copi o Be Still gan Brian Heasley, cliciwch yma . /p>
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
More