Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl
![Be Still: A Simple Guide To Quiet Times](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F28246%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Bydd lonydd: Grym yr Ysgrythur
Mae dy eiriau di yn lamp i'm traed, ac yn goleuo fy llwybr. (Salm 119:105)
Mae’r Beibl yn hanfodol ar gyfer amser tawel effeithiol.
Fedri di ddim gwahanu'r ddau. Rhaid i ti nesáu at y Beibl gyda gweddi, a rhaid i ti nesáu at weddi gyda'r Beibl. Dydy’r drefn ddim yn bwysig; weithiau gelli di ddarllen cyn gweddïo, weithiau ar ôl i ti weddïo. Ond dylai'r Beibl fod yn agos bob amser wrth weddïo.
Mae angen inni roi lle i’r Beibl yn ein bywydau, caniatáu iddo herio, ysbrydoli, a llunio ein ffordd o fyw.
Mae Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd yn gartref i Feibl Gutenberg, y llyfr sylweddol cyntaf a argraffwyd yn y Gorllewin, llyfr anhygoel a bron yn amhrisiadwy. Dywedir pan gyrhaeddodd y llyfr Efrog Newydd yn 1847, wrth iddo gael ei gludo i mewn i'r swyddfa dollau a'i gario trwodd, safodd pawb a thynnu eu hetiau fel arwydd o barch i'r llyfr hynod hwn.
Mewn synagogau Iddewig, byddai Athro yn eistedd i roi pregeth ond yn sefyll i ddarllen yr Ysgrythurau. Gwnaeth Iesu'r un peth; darllenwn yn Luc 4:16, “Safodd ar ei draed i ddarllen o'r ysgrifau sanctaidd.” Roedd y traddodiad Hebreig yn un a oedd yn cadw'r Ysgrythurau - Y Tora - â pharch llwyr.
Pan fydda i'n nesáu at yr ysgrythurau, dw i'n fwriadol dynnu fy het ac yn parchu'r hyn sy'n eistedd ar fy nglin, wrth ymyl fy nghoffi!
Yn Salm 1 mae’r Salmydd yn ein hannog ni i fyfyrio ar yr ysgrythur ddydd a nos. Beth mae’r gair “myfyrio” yn ei olygu i chi?
I rai, mae wedi’i wreiddio mor ddwfn yn y syniad o fyfyrdod trosgynnol dwyreiniol nes eu bod yn ei weld yn beryglus yn ysbrydol, neu’n ei ddiystyru fel rhywbeth nad yw ar eu cyfer nhw. Mewn gwirionedd, mae gan fyfyrdod wreiddiau dwfn yn y ffydd Gristnogol.
Mae’r gair “myfyrio” a ddefnyddir yn y Salm hon yn dynodi “crynodeb geiriol,” fel colomen yn cyhwfan yn ailadroddus, yn ysgafn. Mae'r un gair hefyd yn gysylltiedig â chnoi'r gil - y broses y mae buwch yn ei defnyddio i fwyta glaswellt yn y fath fodd ag i dynnu allan yr holl faetholion.
Neu, falle ei bod yn haws meddwl amdano fel sugno fferen galed yn hytrach na'i chrensian; os ydyn ni'n sugno'r fferins dŷn ni'n gadael i'r holl flasau orchuddio ein ceg a byddwn ni'n blasu'r melys yn llawn yn y pen draw. Weithiau, yn fy narlleniad dyddiol o’r Beibl, gallaf grensian fy ffordd drwy’r testun, yn hytrach na stopio i fyfyrio ac amsugno blas llawn yr hyn dw i’n ei ddarllen.
Nid gwagio dy feddwl yw myfyrdod Beiblaidd, ond llenwi dy feddwl a’th feddyliau â gair Duw.
Ffordd ddefnyddiol i fyfyrio ar y Beibl yw ei gofio.
Mae’r Beibl yn dod yn rhan annatod o’n calonnau pan fyddwn ni’n ei gofio. Mae gair Duw i’w ganfod yn aml ar ein dyfeisiau electronig agosaf pan, mewn gwirionedd, dŷn ni'n cael ein galw i guddio ei air yn ein calonnau, gallwn wneud hyn trwy ymrwymo adnodau o’r Beibl i’r cof. Mae cofio'r ysgrythur yn mynd â hi o'r dudalen i'n heneidiau, o'r pen i'r galon.
Mae yna adnodau y dylen ni eu dal yn agos i’n helpu pan na allwn ni gysgu yn y nos, pan dŷn ni’n wynebu heriau, pan dŷn ni’n gweddïo dros eraill, pan dŷn ni ar ein pennau ein hunain, pan fyddwn ni’n mynd trwy dreialon, bydd adnodau dŷn ni wedi’u dysgu ar y cof yn ein cynnal a’n cryfhau gydol oes.
Dewisa adnod heddiw ac ymrwyma i’w rhoi i’r cof yr wythnos hon.
Am y Cynllun hwn
![Be Still: A Simple Guide To Quiet Times](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F28246%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
More
Cynlluniau Tebyg
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40321%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
5 Gweddi o Ostyngeiddrwydd
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)