Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl
Bydd lonydd: Ble mae dy Ardd?
Yn y darn heddiw, dŷn ni’n darllen am fwriad creu gwreiddiol Duw: un lle'r oedd yn cerdded ac yn siarad ag Adda ac Efa yn rheolaidd.
Mae’r ymadrodd rhyfeddol hwn yn Salmau 46:10 sy’n dweud ‘Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!’
Mae’n wahoddiad i lonyddwch a gwybodaeth o Dduw sydd wedi atseinio drwy gydol hanes.
Y rhan fwyaf o foreau dw i'n codi, yn gwneud paned o goffi i mi fy hun, estyn fy nyddiadur, Beibl a llyfrau ac yn eistedd yn yr un gadair yng nghornel fy ystafell fyw. Dw i'n setlo i lawr ac yn cymryd yr amser i osod fy hun mewn gofod sy'n ffafriol i ddod ar draws Duw.
Dw i’n credu’n llwyr mai gweddi - ymroddiad i berthynas, cyfarfyddiad, a sgwrs â Duw - yw gwraidd popeth a wnawn. Rhoddir ystyr i fywydau digyfeiriad mewn perthynas â Duw. Tyfir y berthynas hon mewn cymuned a thrwy fod yn ddisgybl, ond hefyd trwy sefydlu a datblygu ein bywydau defosiynol personol.
Yn union fel yr oedd Adda ac Efa yn cerdded gyda Duw bob dydd, gallwn dyfu yn ein perthynas ag e trwy arfer amser tawel: i wrando’n benodol ar Dduw trwy weddi, darllen y Beibl, a myfyrio. Amser tawel yw pan dŷn ni, nid yn unig yn siarad â Duw, ond yn gofyn i Dduw siarad â ni.
Mae amseroedd tawel yn ymwneud â dod ar draws Duw. Ystyr y gair cyfarfyddiad hwn yw ‘cwrdd â’.
Mae bod yn fwriadol yn allweddol. Dechreuodd y Beibl gyda chyfarfyddiad bwriadol rheolaidd mewn lle ar amser penodol.
Fel dŷn ni wedi darllen heddiw, dechreuodd man gwreiddiol y ddynoliaeth ar gyfer cyfarfyddiad â Duw mewn gardd.
Cymerodd Duw daith gerdded ddyddiol er pleser gydag Adda ac Efa! Hwn oedd y bwriad creu gwreiddiol.
Darlunia nhw'n stopio, yn aros ac yn gwrando, yn llonyddu yn paratoi i gerdded a siarad â Duw. Dyma sut olwg oedd ar yr amser tawel gwreiddiol.
Mae angen i ni yn fwriadol greu gofod yn ein bywydau ar gyfer cyfarfyddiadau rheolaidd, lle i gerdded, siarad a gwrando gyda Duw.
Ble mae dy ardd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
More