Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl
Bydd lonydd: Dyfalbarhad cudd
Mae diwylliant cyhoeddi yn real.
Dŷn ni’n byw mewn byd lle mae pwysau i gael ein gweld; dŷn ni’n edrych ar fideos byr o uchafbwyntiau pobl eraill ac yn teimlo bod rhaid i ni gyhoeddi ein fersiwn ein hunain sydd wedi'i llunio'n ofalus.
Un o elfennau angenrheidiol amser tawel yw ei fod yn cael ei wneud yn gyfrinachol. Mae'n gudd.
Yn 1 Brenhinoedd 17, mae Elias yn ymddangos mewn lle amlwg, yn llys y Brenin Ahab, lle mae'n cyhoeddi gair gan Dduw a fydd yn effeithio'n fawr ar y genedl, gan ddweud “ fydd yna ddim gwlith na glaw y blynyddoedd nesaf yma nes i mi ddweud yn wahanol."
Cyhoeddiad yw hwnnw mewn gwirionedd.
Yn yr adnod nesaf y mae Duw yn dweud wrth Elias, ““Dos i ffwrdd i'r dwyrain. Dos i guddio...” Mae Elias yn symud yn gyflym iawn o le o amlygrwydd i le cudd.
Cuddia dy Hun!
Yn y lle cudd, mae Elias yn derbyn darpariaeth anarferol gan Dduw, wedi'i guddio mewn lle anhygyrch ger nant fechan, mae'n cael ei fwydo gan gigfrain bob dydd.
Roedd hyn ymhell y tu allan i'w barth cysur. Mae'n fyd i ffwrdd o'r palas brenhinol; lle unig ydyw, lle mae’n hollol ddibynnol ar Dduw am faeth a chysur. Ar ôl ychydig, mae'r nant yn sychu ac mae Elias yn teithio i diriogaeth y gelyn lle mae gweddw yn darparu ar ei gyfer yn wyrthiol. Roedd hyn yn her arall i Elias.
Roedd dyn i Dduw yn gofyn am help gan weddw, a oedd ei hun yn ddibynnol ar elusen, yn dabŵ yn ddiwylliannol ac yn ostyngedig iawn. Ac eto yn y foment honno o ostyngeiddrwydd y mae Duw yn gweithredu yn wyrthiol; mae’n darparu cyflenwad diderfyn o flawd ac olew i Elias a theulu’r weddw fyw arno.
Tair blynedd ar ôl i Dduw orchymyn i Elias ymguddio am y tro cyntaf, dwedodd Duw wrtho, “Dos, a dangos dy hun.” (1 Brenhinoedd 18:1) Mae Elias yn mynd yn ôl ac yn cyhoeddi y bydd hi nawr yn bwrw glaw.
Dychmyga pa mor rhwystredig oedd yr aros ar adegau?
Mewn diwylliant sy'n ymddangos fel pe bai'n gwerthfawrogi amlygrwydd, enwogrwydd, adnabyddiaeth, a chadarnhad cyhoeddus, pa mor dda ydyn ni'n ymdopi â'r syniad o guddni?
Mewn man cudd down i ddysgu am Dduw, lle dŷn ni’n dod yn ddibynnol, yn cael ein cysuro ac yn cael ein maethu ganddo, lle dy ni’n dechrau ymddiried ei fod yn gwybod beth mae’n ei wneud, lle mae’r gwersi dŷn ni’n eu dysgu yn unigryw i ni ac weithiau’n golygu ein bod ni yn cael eu bwydo gan gigfrain ac yn derbyn gofal gan wragedd gweddw. Mae bod mewn man cudd yn ein paratoi ar gyfer yr adegau pan fyddwn yn weladwy.
Mewn man cudd dŷn ni hefyd yn dysgu dyfalbarhau: 1 Brenhinoedd 17 yw pennod sy'n ymestyn dros 3 blynedd: cyfnod hir o guddni.
Mae Rhufeiniaid 12:2 yn ein cyfarwyddo: “O hyn ymlaen rhaid i chi stopio ymddwyn yr un fath â phobl sydd ddim yn credu. Gadewch i Dduw newid eich bywyd chi'n llwyr drwy chwyldroi eich ffordd o feddwl am bethau..”
Os ydym am gynnal amser tawel a heb gydymffurfio â phatrymau'r byd hwn, rhaid inni ddeall mai uniongyrchedd yw un o yrwyr ein diwylliant.
Mae angen i ni ddysgu'r grefft o ddyfalbarhad yn y diwylliant hwn o uniongyrchedd.
Ysgrifenna restr heddiw, ei rhoi yn dy Feibl, neu rywle y byddi di’n edrych arno’n rheolaidd. Ymrwyma i weddïo'n rheolaidd ac yn gyson dros y bobl a'r sefyllfaoedd ar y rhestr, hyd yn oed os bydd y torri tir newydd yn cymryd blynyddoedd.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
More