Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl
![Be Still: A Simple Guide To Quiet Times](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F28246%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Bydd lonydd: Dysga i ryfeddu
Yn y darn heddiw, cawn hanes Jacob â Duw yn cyfarfod. “Mae'n rhaid bod yr Arglwydd yma,” meddai, “a doeddwn i ddim yn sylweddoli hynny.” (Gen. 28:10-17)
Bydd ein dychymyg, ein gallu i ryfeddu a chymryd yr amser i fyfyrio ar yr hyn a welwn, ac a sylwn arno, yn cynyddu ein hymwybyddiaeth o Dduw mewn bywyd bob dydd.
Daw’r gair dychymyg o’r ferf imaginari‘darlunio i fi fy hun’. Gall fod o gymorth os wyt yn darlunio dy hun fel rhan o stori ehangach Duw.
Gallwn ennyn ein dychymyg yn ein gwerthfawrogiad o bopeth sydd o’n cwmpas, y cyfan y mae Duw wedi’i greu. Gall dy helpu i ddechrau sylwi ar Dduw drwy'r cyffredin a'r beunyddiol, gall dy helpu i ryfeddu.
Yr hyn gallwn ddod yn ôl i'n cyfnod tawel, cofnodi amdano’n ddyddiol, meddwl amdano, diolch amdano.
Ganed addoliad mewn rhyfeddod.
Yn Genesis, darllenwn fod Duw wedi gweld y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.
Myfyriodd Duw ar y greadigaeth a gwelodd ei fod yn dda.
Dylem nid yn unig fyfyrio ar y Beibl ond hefyd ar y byd yr ydym yn byw ynddo. Gall yr arfer hwn lunio ein hamser tawel.
A yw cyfryngau ffotograffig a chyfoethog o ddelweddau wedi ein hysbeilio o’r gallu i ryfeddu at y cyffredin, fel bod bywyd ond yn edrych yn dda pan fyddwn yn ei weld trwy hidlydd?
Gall bywyd wedi’i hidlo ein hysbeilio: os nad ydyn ni’n ofalus, mae ein gwerthfawrogiad o’r hyn sy’n brydferth yn cael ei ystumio.
Mae harddwch mewn tost, mewn croen crychlyd, mewn gorwelion diwydiannol. Mae harddwch mewn anialwch diffrwyth. Mae harddwch mewn ysbytai. Mae harddwch mewn rhwd.
Mae angen i ni stopio, gweld yr harddwch, a rhyfeddu.
Dylai ein hamseroedd tawel fod yn fwy na rhan ymarferol o’n bywyd Cristnogol. Dyma'r man lle dŷn ni'n myfyrio gyda pharchedig ofn, parch a rhyfeddod at bopeth y mae'r Arglwydd wedi'i ddweud, ei wneud a'i greu.
Myfyria ar dy ddiwrnod a diolch i Dduw am ei greadigaeth. Falle yr hoffet ti wneud cofnod dyddiol amdano os wyt ti’n gallu.
Beth wyt ti wedi'i weld heddiw sydd wedi gwneud iti ryfeddu? Ble wyt ti wedi gweld harddwch?
Am y Cynllun hwn
![Be Still: A Simple Guide To Quiet Times](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F28246%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
More
Cynlluniau Tebyg
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)