Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tyfu mewn CariadSampl

Growing in Love

DYDD 5 O 5

Mae Cariad Sy’n Tyfu yn Disgleirio'n Ddisglair

I anrhydeddu 50 mlynedd ers glanio ar y lleuad, fe wnaeth pȏl piniwn Harris (cwmni ymchwil marchnata) arolwg o blant America i ofyn beth oedden nhw eisiau ei wneud ar ôl iddyn nhw dyfu i fyny. Roedd seren YouTube yn rhif un.

Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae unigolion yn chwilio am chwyddwydr gogoniant personol. Mewn cyferbyniad, gelwir ar Gristnogion i ddisgleirio'n llachar er gogoniant Duw. Sut olwg sydd ar hynny yn ymarferol?

Gad i ni ddarganfod trwy dynnu sylw at rai o ddarnau o’r Ysgrythur heddiw.

... eich bod chi’n ufudd ... Mae Duw ar waith yn eich bywydau chi... Gwnewch bopeth heb gwyno a ffraeo, 15er mwyn i chi dyfu fel plant i Dduw, yn byw bywydau glân a di-fai ... Byddwch fel sêr yn disgleirio yn yr awyr ... Philipiaid 2 : 12-15 beibl.net
... Dyna sut dylai’ch golau chi ddisgleirio, er mwyn i bobl foli’ch Tad yn y nefoedd wrth weld y pethau da dych chi’n eu gwneud.Mathew 5:16 beibl.net
Gwnewch beth mae Duw’n ei ddweud, yn lle dim ond clywed y neges a gwneud dim wedyn. Twyllo’ch hunain ydy peth felly! Iago 1:22 beibl.net
… Credu sy’n bwysig – ffydd yn mynegi ei hun mewn bywyd o gariad. Galatiaid 5:6 beibl.net

Mae’r darnau hyn yn datgelu bod goleuni Cristion yn broses o dyfu mewn cariad trwy ffydd a chydweithrediad â’r Ysbryd Glân.

Felly sut olwg sydd ar Gristion sy’n ddisglair? A yw'n berson sy'n gwenu drwy'r amser a byth yn ymddangos fel pe bai'n cael diwrnod gwael? Ai rhywun sy'n drawiadol o braf, neu'r person mwyaf hael rwyt ti'n ei adnabod?

Efallai, neu efallai ddim. Cofia cyfunioni’r enaid diwrnod tri - mae ein gweithredoedd a ein cymhellion yn bwysig.

Cymera eiliad i feddwl am y dyfyniad hynod wir hwn o'r llyfr poblogaidd The Boy, the Mole, the Fox and the Horse:

“Onid yw'n od. Dim ond ein tu allan y gallwn ei weld, ond mae bron popeth yn digwydd ar y tu mewn. ”

Mae cariad sy’n disgleirio yn stopio edrych ar yr allanol. Mae'n stopio cymharu, barnu, beirniadu, a gweithredu allan o ragfarn, ac yn hytrach yn edrych i Dduw.

Dŷn ni’n llewyrchu cariad Duw pan dŷn ni’n gwybod bod ein brwydr yn erbyn tywyllwch ysbrydol a dŷn ni’n ymladd yn weddigar am undod â dilynwyr Crist eraill. Dŷn ni'n disgleirio pan dŷn ni'n codi llais ac yn gweithredu ar ran anghyfiawnder, yn byw yn hael ac yn ddiolchgar, yn gwneud popeth o dda a allwn, ac yn caru ein gelynion.

Mae diwylliant seciwlar yn ceisio ein denu i geisio ein pleser, ein hathroniaeth, ein poblogrwydd a’n pwrpas ein hunain y tu allan i Dduw. Yn eironig, mae seciwlariaeth wedi creu byd o bobl sy'n barhaol ansicr a gwag. Maen nhw naill ai wedi esgeuluso neu wrthod dyrchafu a mawrhau Duw.

Mewn cyferbyniad, mae’r bobl sy’n gogoneddu Duw fwyaf yn gwybod bod eu hunaniaeth a’u harwyddocâd yn dod ohono e.

Frodyr a chwiorydd yng Nghrist, i lewyrchu cariad Crist yn barhaus, rhaid inni gofio ein bod yn gwbl ddiogel ac yn anfeidrol arwyddocaol trwy Grist. Ef yw ein bywyd, ein diogelwch, a'n harwyddocâd.

A phan fyddwn ni'n byw trwy ei Ysbryd, yn sicr pwy ydyn ni ynddo e, mae cariad yn tarddu yn wych oddi wrthym ni, a Duw yn derbyn yr holl ogoniant.

Dewch i ganmol yr ARGLWYDD gyda mi. Gadewch i ni ei foli gyda’n gilydd!Salm 34:3 beibl.net

Gweddïa: Dduw hardd ac arswydus cariad a goleuni, yr wyf yn ymddarostwng ger dy fron Di. Fe'th ogoneddaf yn unig. Dw i'n gwrthod celwyddau ansicrwydd. Ti yw fy arwyddocâd, ac rwy'n ddiogel ynot ti. Helpa fy ffydd i dyfu yn Dy gariad pur, aberthol, a phelydrol. Yn enw Iesu, Amen.

Dod o hyd i ragor o gynnwys gan Parch Amy ar ei phenodau o'r pod lediad You've Heard It Said.

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Growing in Love

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw caru Duw a charu eraill, ond sut mae gwneud hynny’n effeithiol? Y gwir yw, ni allwn garu pobl yn dda yn ein gallu ein hunain. Ond pan edrychwn at Dduw a gorwedd mewn gostyngeiddrwydd, gallwn fyw o gariad dilys a phwerus Duw. Dysgwch fwy am dyfu mewn cariad yn y Cynllun Beiblaidd 5 diwrnod hwn gan y Parch. Amy Groeschel.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/