Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tyfu mewn CariadSampl

Growing in Love

DYDD 1 O 5

Mae Cariad sy’n Tyfu yn Ddibynnol ar Dduw

Mae’n hawdd i’n bywydau fod mor brysur fel ein bod yn colli allan ar yr hyn sy’n wirioneddol bwysig. Ond yn y tymor hwn, mae Duw wedi bod yn dangos i mi bwysigrwydd perthnasoedd a thyfu mewn cariad. Dros y dyddiau nesaf, byddwn ni’n archwilio sut gallwn ni dyfu yn ein cariad at Dduw ac eraill er mwyn i ni allu profi dymuniad a galwad eithaf Duw amdanon ni - i brofi a byw o’i gariad e.

Yn wir, mae’r Ysgrythur yn dweud wrthym yn Mathew 22:37-40 fod caru Duw â phawb fel dŷn ni’n caru ein hunain yn cyflawni’r holl gyfraith a phroffwydi.

Mae'n debyg dy fod eisoes yn gwybod hyn. Ond mae'n haws dweud na gwneud, yn tydi?

Yn lle gwneud miliwn o esgusodion ynglŷn a pham mae hyn yn ymddangos yn amhosibl, dw i'n dewis tyfu yn y galwadau pwysicaf hyn. Ac rwy'n dyfalu edy fod tithau eisiau gwneud yr un peth.

Felly, sut allwn ni wir garu fel hyn? Allwn ni ddim, mewn gwirionedd - ar ein pennau ein hunain.

Mae angen inni edrych at Dduw - ffynhonnell cariad! Mae'r Beibl yn ein dysgu nad Duw yn unig yw ffynhonnell cariad, ond cariad yw Duw (gweler 1 Ioan 4:16). Fel Cristnogion, dŷn ni nawr yn gallu caru’n ddiffuant oherwydd bod gennym ni brofiad uniongyrchol o’i gariad grasol e tuag atom (gw. Philipiaid 2:1-2).

Er na fyddwn byth yn cyrraedd cariad perffaith yr ochr hon i'r nefoedd, gallwn bob amser dyfu yn ein gallu i garu. Ac mae byw o gariad Duw yn bosib pan dŷn ni'n dysgu cydnabod a dibynnu arno ym mhob eiliad.

Cofia sut beth oedd dy fywyd cyn iti brofi gras a maddeuant Duw? Oeda ac enwa dair bendith fewnol yr wyt nawr yn eu mwynhau fel Cristion.

Pan fyddwn yn sylweddoli, yn glynu wrth, ac yn ymhyfrydu yn pwy yw Duw, bydd cariad go iawn yn arwain!

Gad i ni edrych at esiampl ein Harglwydd Iesu:

Dywedodd Iesu wrth y rhai oedd yn ei feirniadu ac yn ei amau fod popeth a wnaeth ac a ddwedodd wedi dod o arweiniad ei Dad nefol. Ac o ganlyniad, yr hyn a dystiodd pobl yn ei fywyd oedd cariad cwbl dosturiol, a newidiodd dragwyddoldeb.

Os ydyn ni'n mynd i dyfu mewn cariad, ni fydd yn dod o ymdrechu'n galetach na dibynnu ar ein hunain. Mae’n rhaid i ni ddysgu oddi wrth Iesu a dilyn perthynas agos iawn â Duw trwy weddi.

Bydd angen i ni fod yn wybod beth mae’r Beibl yn ei ddweud i gael gwybodaeth am gerdded mewn cariad, a bydd angen inni ddysgu edrych tuag at ei fywyd ynom ni a dibynnu arno. Pan fyddwn yn gwneud hyn, bydd cariad yn dod yn orlif o'i ddaioni e yn ein bywydau.

Gweddïa: Cymera eiliad i siarad â Duw. Cyfaddefa dy angen i ddibynnu mwy arno. Mynega i Dduw y wefr yw bod yn blentyn iddo, a gofynna iddo ddatgelu ffyrdd penodol y gelli di fyw o'i Ysbryd Glân o’th fewn.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Growing in Love

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw caru Duw a charu eraill, ond sut mae gwneud hynny’n effeithiol? Y gwir yw, ni allwn garu pobl yn dda yn ein gallu ein hunain. Ond pan edrychwn at Dduw a gorwedd mewn gostyngeiddrwydd, gallwn fyw o gariad dilys a phwerus Duw. Dysgwch fwy am dyfu mewn cariad yn y Cynllun Beiblaidd 5 diwrnod hwn gan y Parch. Amy Groeschel.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/