Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tyfu mewn CariadSampl

Growing in Love

DYDD 4 O 5

Mae Cariad Sy’n Tyfu yn Gofalu am Eraill

Peidiwch bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonoch chi’ch hunain. Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.. > Philipiaid 2:3-4 NIV (pwyslais wedi'i ychwanegu)

Mae cariad sy’n tyfu yn canolbwyntio ar eraill. Ni allaf eich caru mewn gwirionedd os ydw i'n canolbwyntio'n barhaus ar fy agenda, fy nghymeradwyaeth, fy archwaeth, neu fy nghyflawniad nesaf. Felly i garu ein gilydd mewn gwirionedd, bydd angen i ni aros yn effro i gynlluniau'r gelyn sy'n ein cadw ein ffocws ar ni ein hunain.

Rwy'n credu bod tynnu sylw yn arf sylfaenol i'n gelyn ysbrydol. Beth mae ein gelyn am dynnu ein sylw oddi arno? Yr ateb yw unrhyw beth sy'n bwysig i Dduw. Er enghraifft:

  • Rhannu'r Efengyl (cenhadaeth achubol Duw)
  • Cymundeb agos gyda Duw
  • Caru ein gilydd

Mewn gwirionedd, os gall y gelyn dynnu ein sylw oddi wrth yr hanfodion hyn yn ddigon hir, mae'n gwybod y bydd rhaniad, unigedd a dinistr yn dilyn o hynny.

Yn gyntaf, gad i ni ddiffinio tynnu sylw. Yn y pen draw, mae'n unrhyw beth sy'n tynnu ein sylw neu ein meddwl at rywbeth arall. Dyma enghraifft gyffredin o sut y gall gwrthdyniad edrych: Mae gen ti rywfaint o amser i ladd wrth aros am apwyntiad, ac yn lle gofyn i Dduw am anogaeth i rywun y gallet ti alw neu weddïo drosto, rwyt ti'n gadael dy amser rhydd fynd yn wastraff oherwydd mae sy sylw yn cael ei dynnu at y newyddion diweddaraf, hysbysiadau ffôn, post cyfryngau cymdeithasol, neu ryw fath arall o adloniant ynysu.

Rwyf wedi bod yno, wedi gwneud hynny! Mae'n arferiad mor hawdd llithro iddo oherwydd mae'r cyfan ar gael ar flaenau ein bysedd.

Ond dydw i ddim eisiau byw gyda fy sylw’n cael ei dynnu. Dydw i ddim eisiau syrthio i'r status quo. Dydw i ddim eisiau esgeuluso gweld y person o fy mlaen. Dw i am garu fel Iesu!

Gad i ni ddeffro i'r ffaith ein bod wir angen ein gilydd. Mewn gwirionedd, mae astudiaethau'n profi bod cymunedau perthynol iach yn dda i'n lles corfforol, emosiynol a seicolegol.

Penderfyna heddiw i greu cysylltiad mwy bwriadol a rhyngweithiadau cyson. Penderfyna fod yn ffynhonnell anogaeth ddyddiol i bawb y byddi di’n dod ar eu traws. Penderfyna fyw bywyd sy’n enghraifft o gariad Duw ac sy’n parhau i ganolbwyntio ar genhadaeth ein Teyrnas.

Fy ngŵr, Craig, yw fy ysbrydoliaeth o ran byw bywyd sy’n canolbwyntio ar bobl eraill. Dw i wedi gwneud rhestr yma o sut dw i’n ei weld yn byw. Dw i'n gobeithio y bydd yn dy ysbrydoli di hefyd:

  • Mae'n galw'n heibio’n gyson ȃ rhywun sy’n dioddef.
  • Mae'n ffyddlon mewn gweddi dros bobl.
  • Mae'n cymryd amser i gyfarwyddo neu wrando'n amyneddgar.
  • Mae'n gwneud beth bynnag sydd angen ei wneud - waeth beth fo'r gost bersonol.
  • Mae'n blaenoriaethu ein teulu a fi.
  • Mae'n cyfaddef ac yn ymddiheuro pan fydd yn anghywir.
  • Mae'n cynllunio ffyrdd o fod yn hael.
  • Mae bob amser yn mynegi gwerthfawrogiad a diolchgarwch.
  • Mae'n rhoi ei hun yn olaf.
  • Mae bob amser yn annog rhywun â manylion penodol.
  • Mae’n cofio ac yn cydnabod diwrnod arwyddocaol o golled rhywun.
  • Mae'n gofyn cwestiynau deniadol yn lle siarad amdano'i hun.
  • Mae bob amser yn rhannu bwyd oddi ar ei blât!

Mae bywyd Craig yn dangos ffrwyth aeddfed, melys yr Ysbryd Glân. Mae'r gweithredoedd hyn sy'n ymddangos yn fach ond yn ffyddlon o gariad aberthol yn gyson oherwydd ei fod yn dewis yn barhaus i gofleidio bywyd yr Ysbryd ynddo. Bob dydd, mae gennym ni'r cyfle i wneud yr un peth, felly cymera amser i ystyried unrhyw ffyrdd y gallet ti ganolbwyntio mwy ar eraill.

Gweddïa: O Dad, agor fy nghalon a'm llygaid i sut y gallaf fyw bywyd sy'n canolbwyntio ar Dduw ac sy'n canolbwyntio ar eraill. Yn enwedig helpai fi gadw fy sylw ar y rhai sydd agosaf ataf i. Boed imi wir garu a gwerthfawrogi pobl trwy fy ngweithredoedd a’m geiriau. Yn enw Iesu, Amen.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Growing in Love

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw caru Duw a charu eraill, ond sut mae gwneud hynny’n effeithiol? Y gwir yw, ni allwn garu pobl yn dda yn ein gallu ein hunain. Ond pan edrychwn at Dduw a gorwedd mewn gostyngeiddrwydd, gallwn fyw o gariad dilys a phwerus Duw. Dysgwch fwy am dyfu mewn cariad yn y Cynllun Beiblaidd 5 diwrnod hwn gan y Parch. Amy Groeschel.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/