Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tyfu mewn CariadSampl

Growing in Love

DYDD 2 O 5

Mae Cariad sy’n Tyfu Yn Ostyngedig

Ydych chi'n mwynhau dysgu sgiliau newydd? Dw i wedi bod yn cymryd gwersi Sbaeneg dyddiol ar fy ffôn ers mwy na dwy flynedd bellach. Mae wedi bod yn muy divertido (hwyl iawn)!

Rwy'n hoffi tyfu mewn gwybodaeth a dealltwriaeth am bron unrhyw beth. A dweud y gwir, mae bod yn anwybodus am rywbeth yn fy nychryn ychydig. Efallai ei fod oherwydd ei fod yn gwneud i mi deimlo’n agored i niwed, yn anwybodus, neu’n ddi-nod, tra bod gwybodaeth yn rhoi teimlad o hunanhyder a rheolaeth i mi.

A nawr mae'n bryd i mi gyfaddef rhywbeth eithaf hyll i ti. Dw i'n gwella o’r hunanoldeb o feddwl fy mod yn gwybod popeth, a dw i wrth fy modd bod i’n iawn. Os gelli di uniaethu, dw i'n gobeithio y bydd y defosiwn hwn yn dy fendithio a’th helpu!

Y gwir amdani: Mae dysgu'n dda. Mae angen inni dyfu’n arbennig yn ein gwybodaeth o Air Duw! Ond mae yna rai problemau gyda gwybodaeth, a welwn ni yn yr Ysgrythurau heddiw.

Yn wir, rwy'n dy annog i dreulio ychydig o amser ychwanegol yn myfyrio dros ddarnau heddiw.

Wrth wneud, ystyria’r ddwy broblem fawr hyn gyda gwybodaeth:

  1. Gallwn yn rhy hawdd ddibynnu ar wybodaeth yn lle Duw.
  2. Gallwn fod yn amddiffynnol o'n gwybodaeth.

Mae'r awydd hwn am wybodaeth ac i fod yn gywir yn creu temtasiwn enfawr i edrych i lawr ar eraill sy'n meddwl neu'n gweithredu'n wahanol na thi. A bydd dyrchafu gwybodaeth yn dy ynysu oddi wrth y rhai sydd ddim a’r un safbwyntiau ȃ ti.

Ble yn union mae cariad neu’r cyfle i rannu’r efengyl yn effeithiol ynghanol hyn i gyd? Os yw'r cwestiwn hwnnw'n dy blagio ychydig, dealla mod i’n dysgu hyn gyda thi!

Yn y pen draw, nid yw balchder a chariad yn cydfodoli.

I garu fel Iesu - a oedd, fel Duw, yn gwybod popeth ac eto wedi gwagio ei Hun o'i statws er mwyn gwasanaethu, dysgu ac achub dynoliaeth - bydd angen i ni gerdded yn ei ostyngeiddrwydd.

Ac i wneud hyn, rhaid inni golli pob balchder.

Mae caru’n ostyngedig fel Iesu yn golygu socian unrhyw wybodaeth sydd gennym â doethineb a dirnadaeth Duw. Dim ond wedyn y byddwn ni’n gallu ymgysylltu’n dosturiol â phobl, gofyn cwestiynau iddyn nhw, a’u gwerthfawrogi’n iawn lle maen nhw - yn eu llawenydd neu boen, ac yn eu pechod neu anwybodaeth. Dyna beth wnaeth Iesu.

Rhaid i ni fod yn deimladwy. gyda phobl. Gan fod eu caru go iawn yn golygu eu gweld, gwrando'n dda arnyn nhw, ac nid dim ond eu dysgu.

Bob dydd, ni biau'r dewis. Gallwn fyw o wybodaeth hunangyfiawn, neu gallwn fyw o wirionedd gostyngedig, grasol Crist a chariad achubol bywyd.

Fel y mae 1 Corinthiaid 13 yn ein hatgoffa, dim ond yn rhannol y gwelwn ni, ond mae Duw yn gweld y darlun cyfan. Felly gad i ni drystio yn ei ffordd o gariad gostyngedig.

Gweddïa: Oeda a cheisio’r Tad. Gofynna i'r Ysbryd Glân agor dy lygaid i unrhyw falchder cyfrinachol. Gofynna iddo dy farnu bob tro y bydd balchder yn codi. Gofynna i gariad Duw ddod yn beth amlycaf yn dy bywyd.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Growing in Love

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw caru Duw a charu eraill, ond sut mae gwneud hynny’n effeithiol? Y gwir yw, ni allwn garu pobl yn dda yn ein gallu ein hunain. Ond pan edrychwn at Dduw a gorwedd mewn gostyngeiddrwydd, gallwn fyw o gariad dilys a phwerus Duw. Dysgwch fwy am dyfu mewn cariad yn y Cynllun Beiblaidd 5 diwrnod hwn gan y Parch. Amy Groeschel.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/