Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Tyfu mewn CariadSampl

Growing in Love

DYDD 3 O 5

Mae Cariad Sy’n Tyfu Angen Cyfunioni’r Enaid

I garu'n dda, mae angen cymhellion didwyll, pur. Felly, mae angen hunan-ymwybyddiaeth iach ar gariad cynyddol.

Ydy dy gariad di yn ddiffuant - yn golygu heb ragrith nac esgus? Sut elli di wybod? Cymera amser bwriadol ar gyfer cyfunioni’r enaid. Gad i mi egluro.

Yn achlysurol bydd angen i mi fynd at y ceiropractydd i gael addasiad i fy asgwrn cefn. Yn anochel, mae Dr. Lisa bob amser yn darganfod rhywbeth sydd wedi symud allan o aliniad - felly mae hi'n ei glecian, a’i roi yn ôl i'w le. Mae'r cywiriadau hyn o fudd i'm corff corfforol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Yn ystod diwrnod cyntaf y Cynllun Beiblaidd hwn, fe wnaethon ni sylweddoli bod gwir angen help Duw arnom ni er mwyn ei garu e ac eraill. Ac un o fanteision edrych ar Dduw bob dydd, a dibynnu arno yw y bydd yn aml yn datgelu rhywbeth penodol sydd angen ei gywiro - neu gyfunioni’r enaid.

Weithiau, mae Duw yn dangos i mi fy mod yn bod yn riant allan o emosiynau sy'n seiliedig ar ofn, yn lle cariad gwirioneddol, ac mae angen i mi ildio fy hun iddo. Weithiau, dw i wedi mynd yn dramgwyddus, ac mae'r Ysbryd Glân yn dangos i mi lle mae balchder i edifarhau amdano a maddeuant i'w roi. Lawer gwaith, dw i wedi dibynnu arnaf fy hun ac wedi ceisio'n ystyfnig i ddod â fy atebion i sefyllfa yn fy ymdrech i helpu'n gariadus.

Gallwn i fynd yn fy mlaen, ond yr hyn dw i'n gobeithio dy fod yn ei ddeall yw na allwn ni wir garu eraill nes inni agor ein hunain i gael ein cywiro a gorwedd yn ostyngedig o flaen y Meddyg Sanctaidd.

Fedra i ddim caru rhag ofn, tramgwyddo, bod yn hunan-ganolog, neu ystyfnigrwydd. A fedri dithau ddim ychwaith. Gad i hwnnw suddo i mewn.

Y broblem yw y gall llawer o'r hyn yr wyt ti a minnau'n ei wneud hyd yn oed fod â ryw ymddangosiad o gyfiawnder. Dŷn ni'n dda iawn am fod yn hunan wasanaethol, yn hunangyfiawn ac yn hunangyfiawn. Ond mae cariad yn mynd yn llawer dyfnach na'r hyn sy'n cwrdd â'r llygad.

Nid peth da yw'r pethcariadus bob amser. O ran gwir gariad, cymhellion sydd bwysicaf.

Dyna pam mae angen inni fynd at Dduw â chalonnau tawel, gostyngedig i gadw unrhyw hunan-dwyll allan. Yn union fel mynd at y ceiropractydd, bydd treulio amser bwriadol gyda Duw mewn gweddi yn dod â'r hunanymwybyddiaeth sydd ei angen ar ein heneidiau.

Felly heddiw, treulia ychydig o amser yn gofyn i ti dy hun: Beth ydw i wedi bod yn ei wneud sy'n ymddangos fel y peth iawn, ond heb y cymhellion cywir?

Gweddïa: Gofynna i Dduw ddangos i ti a oes unrhyw gymhellion ffug y mae angen iti gael gwared arnyn nhw, er mwyn caru gyda didwylledd llwyr.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Growing in Love

Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw caru Duw a charu eraill, ond sut mae gwneud hynny’n effeithiol? Y gwir yw, ni allwn garu pobl yn dda yn ein gallu ein hunain. Ond pan edrychwn at Dduw a gorwedd mewn gostyngeiddrwydd, gallwn fyw o gariad dilys a phwerus Duw. Dysgwch fwy am dyfu mewn cariad yn y Cynllun Beiblaidd 5 diwrnod hwn gan y Parch. Amy Groeschel.

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/