Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod i DeyrnasuSampl

Kingdom Come

DYDD 14 O 15

GWEDDI:

Dduw, ti sydd wedi fy nghreu â phwrpas. Helpa fi i fyw gyda'r pwrpas hwnnw mewn golwg. Agora fy llygaid i ffyrdd y gallaf garu eraill yn dda a’u cyfeirio nhw atat ti.




DARLLENIAD:

Mae Duw wedi ein creu ar bwrpas - i bwrpas. Creda neu beidio, mae eisoes wedi paratoi ffyrdd y gelli di ddangos a rhannu cariad Duw ag eraill. (A rhag ofn dy fod yn pendroni, mae'n gwybod ble wyt ti'n gweithio!)


Mae llawer o ddilynwyr Iesu yn byw bywydau mewn dosbarthiadau gwahanol, yn enwedig o ran eu bywyd gwaith a’u ffydd. Ond beth os yw eich gwaith yn un o'r prif ffyrdd y mae Duw eisiau tyfu eich ffydd?


Wyt ti’n gwybod y bydd y person cyffredin yn treulio tua 90,000 o oriau - tua thraean o’i fodolaeth fel oedolyn -yn y gwaith? Os nad yw ein ffydd yn siarad â’n bywydau gwaith, does ganddo ddim lle i ddweud dim am yr hyn a wnawn gyda rhan helaeth o’n hamser. Mae Duw yn poeni’n fawr am ein gwaith a sut dŷn ni fel dilynwyr Iesu yn gweithredu yn y gwaith.


Dydy eglwysi ddim bob amser wedi gwneud gwaith gwych yn helpu pobl i ddarganfod mwy o ystyr a phwrpas yn eu gwaith. Yn wir, mae rhai pregethau yn eich gadael â'r argraff mai'r unig ffordd i wasanaethu Duw yw gadael eich swydd a gweithio mewn eglwys. Ond ni allai hyn fod ymhellach oddi wrth y gwir.


Sgwennodd Martin Luther, diwygiwr yr Eglwys, “Mae'r crydd Cristnogol yn gwneud ei ddyletswydd nid trwy roi croesau bach ar yr esgidiau, ond trwy wneud esgidiau da, oherwydd mae gan Dduw ddiddordeb mewn crefftwaith da.”


Wnaeth Dorothy Sayers, actifydd ac awdur, fynegi teimlad tebyg pan sgwennodd, “Mae agwedd yr eglwys at saer coed deallus fel arfer wedi’i chyfyngu i’w annog i beidio â bod yn feddw ac afreolus yn ei oriau hamdden ac i ddod i’r eglwys ar y Suliau. Yr hyn y dylai'r eglwys fod yn ei ddweud wrtho yw hyn: mai'r gofyniad cyntaf y mae ei grefydd yn ei wneud arno yw gwneud byrddau da.”


Y gwir yw, mae bron pob math o waith yn cyfrannu mewn rhyw ffordd at les cyffredinol eraill. Fel y cyfryw, mae ein gwaith yn un o'r ffyrdd y mae Duw yn ymestyn ei gariad a'i ofal i'w greadigaeth. Er mwyn gwasanaethu Duw gyda'ch gwaith, does dim rhaid i ti roi'r gorau i'th swydd a mynd i weithio mewn eglwys – rwyt ti’n gallu gwasanaethu Duw yn y gwaith gyda shifft syml yn dy bersbectif. Efallai bod angen i ti edrych ar dy waith trwy lens yr effaith gadarnhaol y mae'n ei gael ar eraill. Falle bod angen i ti adnewyddu dy ymrwymiad i wneud gwaith o safon gydag anrhydedd. Neu falle mai'r cyfan sydd angen i ti ei wneud yw sylweddoli bod Duw wedi dy roi di lle rwyt ti am reswm ac wedi “paratoi gweithredoedd da” i ti eu gwneud yn union ble rwyt ti'n digwydd treulio 40 awr yr wythnos.


MYFYRDOD:

Dyma ychydig o gwestiynau i'w gofyn, wrth i ti fyfyrio ar sut mae dy fywyd a'th waith yn croesi ar draws ei gilydd:

• Ym mha ffyrdd mae dy waith yn gwasanaethu eraill?

• Sut olwg fyddai ar ffocysu mwy ar wasanaethu eraill drwy dy waith?

• Sut fredi di ddylanwadu ar ddiwylliant dy weithle n ffordd fwy positif?

Treulia ychydig o amser yn cofnodi dy atebion. Falle eu bod yn ymddangos fel cwestiynau digon hawdd, ond paid â rhuthro drwyddyn nhw. Gwahodda Dduw i'r sgwrs trwy weddïo wrth i ti gofnodi dy feddyliau. Gofynna i'r Ysbryd Glân dy wneud yn fwy ymwybodol o'i bresenoldeb a'i arweiniad yn ystod dy oriau gwaith. Ystyria ei gwneud yn arferiad dyddiol i ofyn i Dduw, “Pwy hoffet ti i mi ddangos dy gariad tuag ato/ati heddiw?” Yna bydd yn barod i ymateb i'w arweiniad.


Diwrnod 13Diwrnod 15

Am y Cynllun hwn

Kingdom Come

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.

More

Hoffem ddiolch i North Point Community Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://northpoint.org