Dod i DeyrnasuSampl
GWEDDI:
Dduw, diolch i ti dy fod wedi fy ngharu i gyntaf. Dysga fi sut i garu eraill yn dda.
READING:
Ym 1917, agorodd offeiriad o’r enw Edward Flanagan gartref i fechgyn i helpu’r rhai mwyaf anghenus a mwyaf agored i niwed yn Omaha, Nebraska. Roedd y cartref plant amddifad yn cynnwys y digartref, bechgyn â chofnodion troseddol, a'r anabl. Roedd gan un o'r bechgyn hynny, Howard Loomis, polio ac roedd yn gwisgo bresys coesau trwm. Un diwrnod, gwelodd y Tad Flanagan un o'r bechgyn hŷn yn cario Howard i fyny'r grisiau. Sylwodd y Tad Flanagan ar y caredigrwydd hwn a gofynnodd iddo, “Ydy e ddim yn drwm?” Ac atebodd y bachgen, “Dydy e ddim yn drwm, fy mrawd i ydy e.”
Dyma lun hardd o sut mae'n edrych i “fod yn ostyngedig.” Mae'r ymadrodd, a gyfieithir fel “gostyngedig” yn y darn hwn, hefyd yn golygu “gwarchod.” Mae'n dod â llun i'n meddyliau o godi neu gario rhywun, fel y bachgen yn cario Howard i fyny'r grisiau, dyma sut olwg sydd ar gariad.
Mewn ffordd, mae caru rhywun yn golygu agor ein hunain i ddioddefaint. Mae eu tristwch yn dod yn eiddo i ni. Dyma un o'r rhesymau pam ein bod mor aml yn cael ein gwarchod ac yn araf i garu. Gall fod yn anodd agor ein hunain i berthynas a all ofyn i ni beth allai fod yn anodd neu'n anghyfleus.
Ond dyma mae Duw yn gofyn i ni ei wneud dros ein gilydd fel cymuned o ddilynwyr Iesu. Mae'n ein galw i garu mewn ffordd a fydd yn costio i ni. Nid yw Duw yn gofyn i ni wneud unrhyw beth nad yw wedi ei wneud yn gyntaf ei hun. Wnaeth Duw ddim gwarchod ei galon rhagom. Wnaeth e ei dywallt yn hael. Clymodd Iesu ei galon â'n calon ni. Gwnaeth ein dioddefaint yn ddioddefaint iddo e. Gwnaeth ein poen yn boen iddo. Ac mae'n gofyn i ni wneud yr un peth i eraill. Mae hyn yn rhan o sut mae'n edrych “ i fyw fel y dylai pobl mae Duw wedi'u galw i berthyn iddo fyw.”
MYFYRDOD:
Meddylia nôl dros dy fywyd. Pryd mae rhywun wedi dy garu di yn yr un ffordd hollbresennol a chostus ag y gwnaeth Iesu? Os yw’n hawdd cysylltu â’r person sy'n dod i'r meddwl, trefna beth amser gyda nhw yr wythnos hon neu'r nesaf – falle amser am baned o goffi neu alwad Zoom. Dewch at eich gilydd a rho wybod iddo/iddi faint o wahaniaeth y mae eu dewis i “fod yn ostyngedig” wedi'i wneud yn dy fywyd.
Yna dychmyga rywun yn eistedd gyda thi flynyddoedd yn ddiweddarach ac yn dweud yr un peth wrthot ti.
Gofynna i'r Ysbryd Glân roi ei lygaid a'i galon i ti dros y bobl. Gofynna i gael eu gweld fel y mae e’n eu gweld ac yn ymateb yn y ffordd y mae e'n ymateb.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
More