Dod i DeyrnasuSampl
GWEDDI:
Dduw, dw i eisiau bendithio eraill oherwydd ti wedi fy mendithio i. Dangosa i mi sut y gallaf wneud hynny heddiw a rho’r dewrder i mi ddilyn drwodd.
DARLLENIAD:
Dychmyga dy fod yn sgrolio trwy dy borwr cyfryngau cymdeithasol a'th fod yn dod ar draws post sy'n dy gynhyrfu. Mae'n tynnu sylw at rywbeth sy'n ofnadwy o anghywir yn y byd ac mae dy galon wedi'i hysgogi i gymryd rhan a gwneud rhywbeth. Felly, rwyt ti'n rhannu'r post, gan ychwanegu ychydig eiriau dy hun i fynegi pa mor ddig wyt ti nad oes neb yn poeni digon i wneud unrhyw beth. Ac yna… rwyt ti'n symud ymlaen gyda'th fywyd yn teimlo'n well amdanat ti dy hun oherwydd i ti gymryd rhan. Dwyt ti’n mynd i unlle. Dwyt ti ddim yn cael sgwrs go iawn ag unrhyw un. Dwyt ti ddim yn gwneud dim byd mewn gwirionedd. Ond rwyt ti'n teimlo fel dy fod wedi gwneud
Swnio'n gyfarwydd? Mae gan y math hwn o gymryd rhan enw. Mae’n cael ei alw’n “slacktivism” ac mae’n swyddogol yn y geiriadur Saesneg. Mae'n llwybr byr - ac yn gylchdaith fer - i'n dymuniad i wneud y byd yn lle gwell. Dydy hynny ddim yn golygu nad oes pwrpas i rannu syniadau ac erthyglau pwysig. Ond dim ond un cam o daith fwy yw rhannu gwybodaeth. Ac os dŷn ni’n bodloni ein hawydd i gymryd rhan cyn i ni erioed gymryd rhan mewn gwirionedd, yna yn y pen draw dŷn ni’n colli allan ar ran sylweddol o’r hyn mae Duw eisiau ei wneud ynom ni a thrwom ni. Mae fel mynd i'th hoff fwyty Eidalaidd a llenwi ffyn bara cyn i'r ‘entree’ gyrraedd y bwrdd. Rwyt ti'n colli allan ar y pryd rwyt ti ei eisiau mewn gwirionedd.
Mae Duw yn ein galw i fod yn llawer mwy na “slacktivists.” Yn yr adnodau uchod, o lyfr Genesis, dywedir wrth Abram (a gaiff ei ailenwi’n Abraham yn fuan) fod Duw yn mynd i’w fendithio, ond yna mae Duw yn dweud wrtho ar unwaith y bydd yn “fendith.” Mae'n anrheg gyda phwrpas ynghlwm wrtho. Mae Duw yn bendithio Abram, felly bydd yn bendithio eraill.
Mae hon yn thema barhaus yn y Testament Newydd hefyd. Mae Paul yn codi’r thema hon yn 2 Corinthiaid 1:3-7. Mae'n sgwennu bod Duw yn dod â chysur, o leiaf yn rhannol, felly bydden ni’n cysuro eraill. Mae’n ymddangos y gallwn ni yn ein diwylliant gael ein temtio i ailysgrifennu geiriau Paul, fel petai’n dweud, “Ges ti dy gysuro gan Dduw er mwyn i ti allu rhannu neges am sut mae llawer o bobl yn y byd sydd angen eu cysuro, a gadael i bobl wybod pa mor ofnadwy yn dy farn di, nad oes ots ganddyn nhw.”
Paid cymryd yr abwyd. Dydy e ddim yn ddigon “ail-drydar” dicter rhywun am yr hyn sydd o’i le. Mae Duw yn ein galw i fod yn rhan o’r ateb, sy’n galetach ac yn anniben ond yn llawer mwy gwerth chweil.
Os wyt ti wedi rhoi eich ffydd mewn Duw doedd ddim yn oedi cyn cael ei ddwylo’n fudr, a hyd yn oed yn waedlyd, i ddod ar dy ôl di, yna dydy e ond yn gwneud synnwyr y byddai’n gofyn i ni wneud yr un peth i eraill.
Trwy Iesu, mae Duw wedi sicrhau bod cymaint o fendithion ar gael i ni, ond mae hefyd wedi rhoi galwad a phwrpas i ni - bendithio'r byd. Dŷn ni wedi cael ein galw i dywallt ein hamser, ein hadnoddau a’n hegni yn hael i bartneru â Duw i ddod ag iachâd ac adnewyddiad i’r byd drylliedig hwn. Dŷn ni wedi cael ein bendithio a'n newid i ddod â newid.
MYFYRIO:
Mae’n bosibl mai dy fywyd di yw’r unig neges sy’n rhoi bywyd gan Iesu y mae rhywun yn ei chlywed. Beth mae dy fywyd yn ei ddweud am yr hyn sy'n bwysig i ti? Beth mae dy fywyd yn ei gyfleu am yr hyn sy’n bwysig i Dduw?
Cymra ychydig o amser heddiw a chofnoda dy feddyliau ar y cwestiynau uchod. Beth sy'n bwysig i ti? Gofynna i Dduw ddatgelu’r meysydd yn dy galon sy’n dy rwystro rhag adlewyrchu’r hyn rwyt ti’n ei drysori go iawn.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
More