Dod i DeyrnasuSampl

GWEDDI:
God, I want to see you today as you really are. Help me to have a correct view of who you are.
DARLLENIAD:
Aros! Dw i’n gwybod be ti’n feddwl – Wnes i’m darllen hyn ddoe? Ond, mae yna ddau syniad mawr iawn yn y ddwy adnod yma, felly maen nhw wedi’u rhannu dros ddau diwrnod. Roedd ddoe yn ymwneud â gweithio allan beth mae Duw wedi gweithio ynddo. Mae heddiw yn ymwneud â rôl ofn yn ein twf ysbrydol.
Er mor anghyfforddus ag y gallwn fod â’r syniad hwnnw, mae Paul yn dweud wrthon ni ein bod i “weithio allan ein hiachawdwriaeth ag ofn a chryndod. ”Dŷn ni'n tueddu i ddileu'r math yna o beth yn ein diwylliant, gan feddwl ei fod yn hen arferion crefyddol. Dŷn ni ddim am feddwl am Dduw fel rhywun y dylem ei ofni, yn nag ydyn? Sut gallai hynny fod o help?
Wel, dychmyga dy fod ar y traeth gyda phlentyn ifanc. Fyddai hi’n syniad da pwyntio at y môr a dweud, “Dos i gael hwyl, dw i'n mynd i orwedd yma a chymryd nap?” Wrth gwrs ddim! Byddai hynny'n hynod anghyfrifol siawns? Byddet ti'n cerdded y plentyn law yn llaw yr holl ffordd i fyny at y dŵr. Byddet ti'n dangos pa mor wyllt yw'r tonnau ac dweud am gryfder y cerrynt, ac am iddo fe sylweddoli mor bwerus a chymaint mwy cryfach nag e yw’r môr. Siawns na fyddet ti fyth eisiau iddo fe redeg i mewn heb unrhyw syniad o'r hyn mae e’n ddelio ag e mewn gwirionedd? Ar y llaw arall, fyddet ti ddim eisiau iddo fe fod llawn ofn ac yn gwrthod gollwng gafael o’th law. Byddet ti'n dangos iddo sut i chwarae, sblasio, a chael hwyl yn y tonnau oherwydd dyna'r holl bwynt o fynd i'r traeth. O ystyried mor bwerus yw’r môr, mae yna gydbwysedd pwrpasol rhwng cariad a pharch.
Yn yr un modd, pan mae’r Beibl yn sôn am ofn Duw, y pwynt ydy yw ddylen ni ddim cael ein dychryn gan Dduw. Mae’n ymwneud â chael parch iach at y ffaith bod Duw mor fawr, a chymaint mwy pwerus nag y gallwn ni ei ddeall. Mae’n ymwneud â chydnabod, pan ddown at Dduw, nad ni sydd â’r gair olaf. Does dim modd i ni gael unrhyw reolaeth arno, na’i fanipiwleiddio - fe yw Creawdwr hollalluog y bydysawd! Allwn ni ddim ei ffitio yn ein poced a'i gario o gwmpas fel addurn bach lwc dda.
Ond ddylai gwybod hyn ddim ein tynnu oddi wrth Dduw. Mewn gwirionedd, mae'r gwrthwyneb yn wir. Pan fyddwn yn darganfod “ofn” iach o Dduw, dŷn ni’n llawer llai tebygol o gymryd ei gariad yn ganiataol. Mae'n tanio ein rhyfeddod ac yn dod â ni yn nes ato.
MYFYRDOD:
Rhan hanfodol o gysylltiad â Duw yw cael darlun cywir o bwy ydyw. Mae'n hawdd i ni ddod mor gyfarwydd â Duw fel ffrind agos nes bod ni’n anghofio pa mor fawr yw e.
Dyma rai cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw…
A yw dy farn am Dduw wedi bod yn rhy fach? Beth oedd canlyniad y farn gyfyngedig honno? Gyda beth wyt ti’n teimlo y gallet ti fod wedi cymryd cariad Duw yn ganiataol?
Gofynna i Dduw roi i ti “ofn” iach a chymwynasgar ohono’i hun a gweld mor aruthrol a phwerus yw e fel Duw. Yna diolch iddo am y cariad aruthrol wnaeth ei arwain i roi'r holl rym hwnnw o'r neilltu a dioddef marwolaeth ar y groes fel y gallai e dy groesawu i berthynas ag e.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
More
Cynlluniau Tebyg

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Ymarfer y Ffordd

Hadau: Beth a Pham

Rhoi iddo e dy Bryder
