Emosiynau Sanctaidd - Ymatebion Beiblaidd i Bob HerSampl
Un o’r gweithgareddau pwysicaf y byddi’n cymryd rhan ynddo fydd dy ddewis i dreulio amser yn addoli. Mae’n hanfodol bwysig dy fod yn deall fod yr amser rwyt yn ei dreulio mewn addoliad yn mynd i ganiatáu iti wrthsefyll stormydd bywyd. Bydd addoli’r Arglwydd yn y gawod, wrth yrru’r car, neu hyd yn oed pan wyt yn mynd am dro, yn dy roi iti bersbectif y nefoedd o’th amgylchiadau. Bydd canu wrth olchi’r llestri a phlygu’r dillad yn cyflymu dy gamau a llonni dy galon. Wyt ti’n un o’r Cristnogion trist hynny sy’n canu mawl ar ddyddiau Sul yn unig? Rwyt yn colli rhan orau dy fywyd! Trystia fi - dwyt t ddim eisiau colli’r cyfle o lanhau’r llwch o’th fywyd, gan gael gwared â’r galar a gwisgo’r wisg o fawl e Duw wedi’i darparu ar dy gyfer. Dyma'r cyfnewid mwyaf yn yr holl hanes a gofnodwyd: rwyt ti'n rhoi dy boen a'th dorcalon iddo ac mae'n rhoi gwisg mawl i ti!
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Fe’th waned a’th osod yn y cyfnod hwn o amser i garu’r rhai di-gariad, adlewyrchu heddwch mewn helbul, a dangos llawenydd herfeiddiol ym mhob sefyllfa. Gall hyn ymddangos yn amhosibl, ond rwyt yn gallu gwneud hyn drwy ddysgu beth sydd gan y Beibl i’w ddweud am dy emosiynau dynol naturiol, a sut i’w rheoli. Mae’r defosiwn hwn yn ymdrin â’r heriau cyffredin ac weithiau rhyfeddol y mae pob un ohonom yn eu hwynebu bob dydd, ac yn darparu cyfeiriadau Beiblaidd ar sut i reoli dy emosiynau mewn ffordd Dduwiol.
More
Hoffem ddiolch i Carol McLeod and Just Joy Ministries am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i:www.justjoyministries.com