Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn RhyddSampl

Ruth, A Story Of Redemption

DYDD 5 O 5

Duw sydd biau’r diwedd

Mae pennod 4 yn Agor gyda Boas wrth y giât, ynghanol y dref. Mae e yma oherwydd ei fod eisiau priodi Ruth ac mae’n edrych am berthynas agos. Dydyn ni ddim yn gwybod pwy oedd perthynas agosaf Ruth a Naomi, ond gallwn ddysgu cryn dipyn am ei gymeriad o’r darn byr hwn.

Dŷn ni’n gwybod fod y dyn hwn â chyfrifoldeb i gymryd gofal o’r ddwy ddynes, ond dydy e ddim wedi cynnig help hyd yn oed unwaith. Tu hwnt i hynny pan mae Boas yn gofyn i’r dyn os hoffai trosglwyddo’r cyfrifoldeb, mae e’n gwrthod. Roedd hwn yn ddyn oedd fyr o unrhyw urddas a chymeriad; yn wahanol iawn i Boas.

Mae Boas yn gwneud cytundeb cyfreithiol i gael cymryd y cyfrifoldeb am Ruth drosodd fel ei fod yn gallu ei phriodi. Doedd dim rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud dim dros Ruth, fodd bynnag roedd wedi gwneud dim ond gofalu amdani trwy gydol y llyfr. Mae Boas wedi ymestyn gras yn union fel y mae Iesu yn estyn gras i ni.

Mae gras Duw yn ddigon i ni. Dŷn ni wedi’n prynu gan Iesu Grist, tramorwyr oedd yn haeddu dim ond sydd wedi cael hawliau etifedd. Nawr, wrth i Iesu brynu ei briodferch (yr Eglwys), mae Boas yn prynu ei briodferch (Ruth). Mae'n priodi hi ac mae hi'n beichiogi.

Yn ddiddorol iawn doedd Ruth heb feichiogi yn ei phriodas flaenorol o ddeng mlynedd. Gallwn dybio ei bod wedi bod yn ddiffrwyth yn ystod y cyfnod yma, ond roedd Duw wedi rhoi’r gallu iddi feichiogi’r tro hwn.
Mae hi'n gwneud hynny i fachgen bach o'r enw Obed, sy'n dod yn daid i'r Brenin Dafydd.

Dw i eisiau peintio un darlun arall yma o ras a sofraniaeth Duw drwy enedigaeth y plentyn yma. Roedd Ruth yn dod o Foab, un o dramor oedd heb unrhyw hawliau. Fodd bynnag, drwy ras a phrynedigaeth daeth yn rhan o achau Crist. Onid yw hynny’n anhygoel!

Doedd bywyd Ruth ddim yn un hawdd. Tyfodd i fyny mewn cenedl ddrygionus. Dioddefodd golled ei gŵr. Dilynodd Naomi i wlad dramor a byw mewn tlodi. Amgylchiadau digon anodd rhaid dweud.

Fodd bynnag, fel gwnes i bwyntio allan ar ddechrau’r gyfres yma, gallwn weld olion bysedd Duw dros holl stori Ruth a does dim dwywaith roedd e ar waith drwy'r adeg. Roedd yn daith hir ac anodd ond daeth i ben gyda phrynedigaeth. Dechreuodd heb ddim, a gorffen gyda digonedd!

Beth bynnag wyt ti'n mynd drwyddo, cofia fod Duw ar waith yn dy fywyd. Mae e’n gwau tapestri hyfryd, dydy e ddim wedi gorffen ac mae e dal ar waith. Cofia bod Duw’n rasol, da, ac yn dy garu. Os wyt yn teimlo’n ddigalon ar y daith hon, cymer olwg eto ar fywyd Ruth a chofia fod Duw’n gweithio er lles ei bobl.

Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Ruth, A Story Of Redemption

Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amgylchiadau, paid colli’r cynllun darllen hwn!

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg