Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn RhyddSampl

Ruth, A Story Of Redemption

DYDD 3 O 5

Camu Allan

Heddiw dŷn ni’n dechrau gweld go iawn ragluniaeth a chynllun Duw ar waith wrth i Ruth ddechrau ei bywyd newydd ym Methlehem. Wyt ti’n gallu dychmygu bod yn hi? Roedd hi’n weddw o wlad ddieithr oedd ddim yn cael ei pharchu. Roedd hi’n grediniwr diweddar. Roedd popeth yn newydd ac anghyfarwydd iddi Dw i’n siŵr ei bod hi’n dal i hiraethu colli ei gŵr. Ond drwy’r cwbl, er gwaethaf pob emosiwn, daliodd yn yr hyder oedd ganddi yn Nuw.

Yn nechrau pennod 2 mae Ruth yn mentro a lloffa er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd. Yn ôl y gyfraith (Lefiticus 19) roedd cynaeafwyr yn cael eu gorchymyn i beidio casglu’r cynhaeaf cyfan, ond i adael y corneli ar gyfer y tlawd. Roedd Ruth, nid yn unig yn camu allan i wneud y gwaith caled o gasglu’r sborion, ond roedd yn ostyngedig.

A dyma ni Boas, y gwaredwr! Mae Boas yn symbol drwy’r llyfr hwn o Iesu Grist ein Gwaredwr. Llun hyfrydo Iesu’n cymryd y pechadur yn ei freichiau cariadus. Felly, pwy yw’r dyn yma, Boas? Dŷn ni’n gwybod ei fod yn perthyn drwy briodas i Naomi. Dŷn ni’n gwybod ei fod yn ddyn o statws a chyfoeth. Mae ei enw yn llythrennol yn golygu "cryfder." Gwyddom ei fod yn trin ei weithwyr yn dda a dieithriaid yn garedig. Yn bwysicaf oll, rydyn ni'n gwybod ei fod yn ddyn Duw.

Ar ôl i Boas sylwi ar Ruth yn ei gae a holi pwy yw hi, mae e’n dweud wrthi am aros yn ei gae a bydd e’n sicrhau ei bod yn cael gofal. Gyda chynnig mor garedig mae Ruth yn plygu i lawr ar ei gliniau a gofyn pam ei fod wedi bod mor garedig. Cofia, roedd Ruth o Moab, ond eto, bu Boas yn aruthrol garedig iddi.

Mae Boas yn ateb ei chwestiwn am ei garedigrwydd gyda datganiad hyfryd. Nid yn unig mae Boas yn gweld ei harddwch mewnol a chymeriad, ond mae e’n ei bendithio hefyd.

Mae Duw’n dymuno gofalu am pob un ohonom - y tramorwr, y tlawd, yr unig, y toredig, y chwerw, pob un ohonom - o dan ei adain. Mae e’n dymuno amddiffyn a chysgodi TI. I ddod â chysur a llawenydd i ti. Mae dymuniad Boas i Ruth yn ddarlun o ddymuniad Duw i ni. Fod pob un ohonom yn dod o hyd i loches o dan ei adain. Mae e am i gael gorffwys a lloches o dan ei adain. Mae Duw eisiau sy amddiffyn a chaniatáu i ti dyfu i mewn i’r person mae e wedi’i fowldio i fowldio i fod.

Pan ddychwelodd Ruth adref Naomi dychwelodd gyda mwy o fwyd nad oedd erioed wedi’i ddychmygu. Mae rhai ysgolheigion yn credu ei bod wedi dychwelyd gyda digon o fwyd am flwyddyn. Fy ffrind, heddiw falle dyfod yn chwilio am sborion o obaith neu iachâd, ond mae Duw eisiau rhoi gymaint mwy i ti! Dychmyga y bydd Duw’n darparu ar dy gyfer tu hwnt i'r hyn y gallet obeithio amdano neu ei ddychmygu!

Ysgrythur

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Ruth, A Story Of Redemption

Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amgylchiadau, paid colli’r cynllun darllen hwn!

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg