Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn RhyddSampl

Ruth, A Story Of Redemption

DYDD 1 O 5

Ymhell o Gartref

Wyt ti erioed wedi meddwl os yw Duw ar waith yn dy fywyd? Dw i wedi, sawl gwaith, ac yna dw i’n cael fy atgoffa am lyfr Ruth. Dŷn ni ddim yn gweld gwyrthiau neu ymyrraeth ddwyfol o’r nefoedd, dŷn ni’n gweld Duw ar waith yn gynnil wrth iddo arwain y ddwy wraig ar hyd llwybr o adferiad a ffrwythlondeb..

Mae llyfr Ruth yn dechrau gyda stori am deulu’n byw ym Methlehem. Maen nhw’n byw mewn tref sy’n cael ei adnabod fel tŷ bara. Ond eto mae yna newyn. Dydy’r awdur yn dweud fawr ddim wrthon ni am amgylchiadau’r teulu, dŷn ni’n dechrau gyda nhw’n teithio i wlad Moab. O’r dechrau cyntaf roedd Moab yn genedl anfoesol. Ond eto fe wnaeth Elimelech benderfyniad i symud ei deulu o dy’r bara i deithio i genedl ddieithr llawn pechod.

Dydy hi ddim yn cymryd fawr ddim o amser ym mhennod un cyn i ni ddod o hyd i gymhwysiad hanfodol ar gyfer ein bywydau ni’n hunain. Pan fyddwn ni’n wynebu cyfnodau anodd, rhaid i ni ddibynnu ar ddealltwriaeth ddynol, neu gymryd y llwybr haws a chwilio am fwriadau Duw. Wnaeth Elimelech ddim gofyn i Dduw beth oedd ei ewyllys, a wnaeth e ddim trystio Duw. Yn lle, symudodd ei deulu o ble roedd pobl Duw’n byw i fyw mewn gwlad ddrygionus ble na fyddai unman i addoli Duw a dim cwmnïaeth gyda chredinwyr eraill.

Mae’n eironig fod Elimelech wedi dianc i osgoi marwolaeth, ond eto dyna fyddai ei dynged e a’i feibion o fewn degawd. Fe wnaeth ei benderfyniad gwael effeithio, nid yn unig arno e, ond ei holl deulu. Rhaid i ni ddod i’r sylweddoliad y bydd ein dewisiadau mewn bywyd yn effeithio ar eraill.

Unwaith i Elimelech wrthod dilyn ewyllys Duw, roedd yn methu dweud y gwahaniaeth rhwng beth oedd yn iawn a ddim yn iawn. Caniataodd i’w feibion briodi merched o Moab oedd ddim yn adnabod Duw a ddim yn credu’r un peth. Gydag un penderfyniad ar ôl y llall symudodd Ehimelech ei deulu yn bellach oddi wrth Dduw. Mae’n bwysig dy fod ti a fi’n ceisio ewyllys Duw a gwneud beth dŷn ni’n feddwl sydd orau. Gall un penderfyniad gwael arwain i belen eira o benderfyniadau gwael.

Y newyddion da ydy, mae Duw’n adnewyddu ac mae Duw’n dda. Dŷn ni, dim yn unig yn gweld teulu’n cael eu dinistrio gydag un penderfyniad. Dydy Duw heb orffen eto.

Fel pobl Dduw mae gynnon ni’r cyfle unigryw i adnabod ewyllys Duw a byw dan ei adain. Mae yna gyfnodau yn ein bywydau pan mae’r storm yn daro. Yn y tymhorau hynny gallwn geisio ei ewyllys a’i drystio, neu gallwn ddibynnu ar ein dealltwriaeth ni ein hunain a gwneud y penderfyniad dŷn ni’n meddwl sydd orau. Yn y pen draw mae cynllun Duw’n well ar ein cyfer nag un ein hunain.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Ruth, A Story Of Redemption

Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amg...

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd