Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn RhyddSampl

Ruth, A Story Of Redemption

DYDD 4 O 5

Ar y Llawr Dyrnu

Pobl gyffredin oedd Ruth a Boas yn amlwg iawn oherwydd eu ffydd a’u hufudd-dod. Does dim dwywaith fod Ruth yn ddynes ffyddlon. Cafodd sgwrs ddiffuant ar y ffordd i Fethlehem a pharhaodd ar ei thaith i’r wlad newydd. Credodd y byddai Duw’n darparu ar ei chyfer hi a Naomi wrth iddi fynd allan i lolfa. Credodd a thrystio ynghanol anhawster.

Os oes un peth y gallwn fod yn siŵr ohono, dydy e ddim o bwys pa mor anodd yw hi arnom ni, mae’n rhaid i ni gredu a thrystio y bydd Duw’n darparu. Er mor anodd y gall rhai cyfnodau fod, mae’n rhaid inni ganiatáu i’n ffydd gael ei ymestyn i fan ble gallwn drystio Duw, neu ni fydd ein ffydd byth yn tyfu a gweld cyflawnder yr hyn y mae Duw am ei wneud yn ein bywydau.

Mae Ruth yn ddynes rinweddol, ac felly hefyd y dyn mae hi’n penlinio wrtho. Mae Boas a Ruth yn cyfateb yn berffaith i’w gilydd. Dau berson o rinwedd mawr wedi eu dod at ei gilydd trwy ragluniaeth a daioni Duw. Rwy'n credu bod llawer i'w ddweud trwy'r stori hon.

Wrth i Ruth gerdded mewn caredigrwydd, ffydd a gostyngeiddrwydd, cafodd ei chymeradwyo gan y dyn oedd yn ei charu. Sylwodd Boas ar ei rhagoriaeth a’i rhinwedd a’i hanrhydeddu am hynny trwy ateb ei weddi ei hun ym mhennod 2 drosti. Ond yn fwy na hynny, sylwodd Duw ar ei rhagoriaeth a'i rhinwedd.

Dw i wedi clywed y dywediad, “cymeriad yw’r hyn wyt ti pan nad yw neb yn gwylio.” Doedd gan Ruth ddim syniad y byddai ei bywyd yn cael gymaint o sylw, ond mae miliynau’n am ddilyn ei hesiampl. Dychmyga beth mae Duw am ei wneud drwy’i bobl sydd â chymeriad mawr. Yn y munudau hynny ble dŷn ni’n meddwl nad yw neb yn gwylio neu does dim gwobr am ein gweithredoedd, mae Duw’n sylwi ar ein cymeriad.

Gad i ti a fi fod yn bobl all gael ein galw yn ddynion a merched o ragoriaeth fel Ruth a Boas. Gweithreda mewn ffydd pan mae gobaith bron wedi dod i ben. Ymateba mewn gostyngeiddrwydd i’r cyfleoedd ddaw i’th ran. Estynna garedigrwydd cariadus i bawb o’th gwmpas. Efallai na fyddi fyth yn gwybod pwy mae dy fywyd yn cyffwrdd.

Ysgrythur

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Ruth, A Story Of Redemption

Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amgylchiadau, paid colli’r cynllun darllen hwn!

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg