Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn RhyddSampl

Ruth, A Story Of Redemption

DYDD 2 O 5

Dychwelyd i Ddarpariaeth

Mae hi’n galonogol i wybod fod Duw droson ni. Mae o’n plaid ac yn ein caru ni. Drwy’r cyfan, waeth pa mor ddigalon y gallem ni fod yn teimlo, y gwir yw na all dim ein gwahanu oddi wrth gariad Duw.

Ychydig iawn o storïau sy’n peintio’r llun hwn yn well na rhai Naomi a Ruth. Heddiw, dŷn ni’n dod ar draws y ddwy weddw yma’n galaru colli eu gŵyr oedden nhw’n eu caru, a hynny’n unig mewn cenedl annuwiol. Fodd bynnag, mae newid ar fin digwydd yn ein bywydau. Un diwrnod mae Naomi’n clywed nod ffafr Duw wedi dychwelyd i Fethlehem yn “nhŷ bara.” Bron ar unwaith, mae Naomi yn penderfynu dychwelyd i'w chartref a phobl.

Yn y lle cyntaf mae Orpa a Ruth yn penderfynu teithio gyda Naomi i Fethlehem. Cyn bo hir newidiodd Naomi ei meddwl am y cwmni oedd gyda hi. Ar sail ymbil Naomi dychwelodd Orpa i Moab. Mae Ruth yn gwneud penderfyniad i ddilyn Duw a gwelwn dröedigaeth wirioneddol ar y ffordd i Fethlehem.

Mae’r ddwy wraig yn parhau ar eu taith nes cyrraedd Bethlehem. Yn dilyn hynny mae’r Beibl yn dweud fod y dref gyfan wedi’u cyffroi. Mae’n ymddangos fod Naomi a’i theulu’n adnabyddus iawn yna. Mae merched y dref wedi cynhyrfu o weld fod Naomi wedi dychwelyd ar ôl bod i ffwrdd.

Wrth wynebu ei hunaniaeth, mae Naomi’n gofyn i ferched y dref beidio’i galw’n Naomi (llawen) ond yn Mara (chwerw). Wyt ti erioed wedi teimlo fel Naomi, yn llawn un tro ond nawr yn wag? Yn yr eiliadau hynny pan fydd rhywbeth annwyl wedi'i dynnu i ffwrdd dŷn ni'n teimlo'n agored i niwed ac yn ddig. Nid yw'n annaturiol mynd yn ddig; does ond angen i ni fod yn sicr na fydd y dicter yn troi'n chwerwder.

Rhaid imi ddweud, dw i’n licio hynny am Naomi yn y stori yma. Wnaeth hi ddim dod nôl a ffugio fod popeth yn iawn, yn hytrach, dychwelodd at ei phobl ac roedd yn onest. Felly hefyd y dylen ninnau fod gyda’r bobl o’n cwmpas yn ein brwydrau ac i gyfaddef pan fydd angen anogaeth arnom. Mae cael cymuned o gredinwyr o'ch cwmpas mewn cyfnod anodd yn allweddol i broses iacháu.
Mae Ruth a Naomi wedi dychwelyd i dy bara ar ddechrau cynhaeaf haidd. Cyd-ddigwyddiad? Dw i’m yn credu. Mae grym anweledig ar waith ac mae’r ddwy wraig yma ar fin gweld Duw yn gwneud pethau mawr a bendigedig sydd yn anweledig iddyn nhw ar y pryd.

Fy anogaeth i ti heddiw yw, i drystio fod Duw ar waith. Sylweddola fod ei gynllun yn symud ac rwyt ti yn ei olwg. Dydy e ddim wedi anghofio amdanat ti, a wnaiff dim byd ei stopio rhag dy garu. Os wyt tyn stryglo neu deimlo’n unig, paid bod ofn i ymestyn allan i’r bobl dduwiol sydd o’th gwmpas.

Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Ruth, A Story Of Redemption

Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amgylchiadau, paid colli’r cynllun darllen hwn!

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg