Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dilyn Iesu ein CanolwrSampl

Following Jesus Our Mediator

DYDD 7 O 7

Iesu ein Canolwr

Drwy’r wythnos hon dŷn ni wedi gweld Iesu’n estyn allan at y tlawd, y gorthrymedig, yr ofnus, y pechadurus, pawb sydd ar y cyrion gan gymdeithas. Yn y weithred eithaf o eiriolaeth, ei farwolaeth, a'i atgyfodiad, cymerodd y gosb am ein holl bechodau er mwyn i ni gael ein cymodi â Duw unwaith ac am byth.

Yn yr Africa Study Bible cymer olwg ar “Jesus, Humanity’s Mediator”:

Mae bod yn ganolwr yn rhan annatod mewn diwylliannau Affrica, ac yn arf pwerus, ar gyfer datrys gwrthdaro. Yn draddodiadol, trefnwyd y rhan fwyaf o briodasau Affricanaidd ym mhresenoldeb rhieni bedydd. Roedd y rhain yn bobl y byddai'r cwpl yn mynd atyn nhw pe bai problem ble roedd angen canolwr. Pan fydd cymunedau mewn gwrthdaro heddiw, mae henuriaid y ddwy ochr yn cyfarfod ym mhresenoldeb trydydd parti i drafod heddwch. Pan fydd cenhedloedd yn rhyfela, mae'r Cenhedloedd Unedig yn anfon cenhadon heddwch i geisio dod â'r elyniaeth i ben. Mae rhieni bedydd, trydydd parti, a chenhadon heddwch i gyd yn cyflawni rôl canolwyr. Maen nhw’n gweithredu fel canolwyr rhwng partïon sy'n gwrthdaro i helpu i adfer cytgord a heddwch.

Daeth Crist yn ganolwr - canolwr perffaith. Roedd yn ddibechod ac yn ddieuog o'r troseddau a gyflawnwyd gennym ni. Ac eto fel canolwr rhwng y pwerus a'r di-rym, fe gymerodd ein lle ni.

Talodd Crist y pris eithaf ac yna addawodd na fyddai pwy bynnag sy’n credu ynddo yn cael y gosb honno. Yn hytrach, mae person sy'n credu ynddo yn derbyn bywyd tragwyddol. Trwy Grist, a thrwyddo ef yn unig, y gall pobl fod mewn heddwch â Duw. “Mae am iddyn nhw ddeall mai un Duw sydd, ac mai dim ond un person sy'n gallu pontio'r gagendor rhwng Duw a phobl. Iesu'r Meseia ydy hwnnw, ac roedd e'n ddyn. Rhoddodd ei fywyd yn aberth i dalu'r pris am ollwng pobl yn rhydd. Daeth i roi tystiolaeth am fwriad Duw ar yr amser iawn” (1 Timotheus 2:5-6).

Myfyria neu Drafod

Pam fod angen cael Iesu’n ganolwr

Gwasanaethodd Iesu fel y canolwr perffaith, gan gymryd y gosb yr oeddem yn ei haeddu am ein pechodau. Pam wyt ti'n meddwl bod Iesu'n fodlon gwneud hyn droson ni?

Wyt ti mewn heddwch â Duw? Os na, beth yw'r unig ffordd rwyt ti’n gallu cymodi ag e?

Os nad wyt wedi ymddiried yn Iesu, canolwr mawr y ddynoliaeth, paid gadael i ddiwrnod arall fynd heibio heb ddod o hyd i rywun a all weddïo gyda thi am hyn.

Ysgrythur

Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Following Jesus Our Mediator

Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bobl hyn o gyrion cymdeithas obeithio cysylltu â Duw sanctaidd? Yn seiliedig ar fewnwelediadau o lyfr Luc yn yr ‘Africa Study Bible’, dilyna Iesu wrth iddo bontio'r bwlch rhwng Duw a'r rhai sydd ar y cyrion.

More

Hoffem ddiolch i Oasis International Ltd am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://Oasisinternationalpublishing.com