Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dilyn Iesu ein CanolwrSampl

Following Jesus Our Mediator

DYDD 1 O 7

Cenhadaeth Iesu

Ar y pwynt hwn ym mywyd Iesu, roedd adroddiadau amdano yn lledu trwy’r ardal ac roedd pobl yn ei dref enedigol, Nasareth, yn eiddgar i’w glywed. I ateb eu cwestiynau, pan ddaeth tro Iesu i ddarllen yr Ysgrythur yn y synagog, agorodd y sgrôl i Eseia a darllen proffwydoliaeth hynafol amdano’i hun a’i genhadaeth. Daeth i ddod â’r “Newyddion Da” i’r tlawd, y caeth, y deillion, a’r gorthrymedig. Carodd Duw hyd yn oed y rhai mwyaf ymylol ac roedd wedi rhoi cynllun ar waith i'w hachub - cynllun a fyddai'n cael ei gyflawni yn y pen draw ym marwolaeth ac atgyfodiad Iesu ein Canolwr.

Yn yrAfrica Study Bible cymer olwg ar ddiarhebion a storau dan y pennawd, “Uneasy Truths.”

Trodd pobl Nasareth yn erbyn Iesu oherwydd eu bod yn meddwl bod Iesu yn eu condemnio gyda'i gyfeiriadau at y Cenhedloedd a dderbyniodd ras Duw yn lle Iddewon (Luc 4:23-28). Mae dihareb Igbo o dde-ddwyrain Nigeria yn dweud, “Pan sonnir am esgyrn sychion, mae hen ferched bob amser yn anesmwyth.”

Pan fydd pobl yn clywed y gwir amdanyn nhw eu hunain, maen nhw’n tueddu i fod yn anghyfforddus. Mae'n debyg nad oes gan neges sy'n gadael pobl heb eu symud wirionedd sy'n berthnasol i'r gwrandawyr.

Wrth iti ddarllen yr Efengylau, falle bydd rhaid i ti wyneu dywediadau anodd a gwirioneddau poenus. Yr allwedd yw darllen a gwrando â chalon agored ar neges Crist.

Myfyrio neu Drafod

Sut mae Iesu yn disgrifio ei genhadaeth?

Ym mha ffordd wyt ti’n gallu roi ei genhadaeth ar waith yn dy fywyd?

Er gwaethaf cenhadaeth Iesu i ddod â Newyddion Da, cafodd ei wrthod gan pobl ei dref enedigol. Er eu bod wedi eu syfrdanu gan ei eiriau grasol, pam wyt ti’n meddwl fod y geiriau ddwedodd e wedi’u gwneud mor flin?

Wyt thi'n adnabod rhywun sy'n byw allan y newyddion da am Iesu? Beth wyt ti’n gallu ei ddysgu ganddyn nhw?

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Following Jesus Our Mediator

Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bobl hyn o gyrion cymdeithas obeithio cysylltu â Duw sanctaidd? Yn seiliedig ar fewnwelediadau o lyfr Luc yn yr ‘Africa Study Bible’, dilyna Iesu wrth iddo bontio'r bwlch rhwng Duw a'r rhai sydd ar y cyrion.

More

Hoffem ddiolch i Oasis International Ltd am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://Oasisinternationalpublishing.com