Dilyn Iesu ein CanolwrSampl
Iesu a'r Llygredig
Mae swyddogion llygredig y llywodraeth yn cael eu casáu a’u hofni gan y rhai maen nhw’n eu gormesu. Ond wnaeth Iesu estyn allan at y gorthrymwyr yn ogystal â'r gorthrymedig.
Yn yr Africa Study Bible cymer olwg ar “A Life-Altering Encounter”:
Mae swyddogion llygredig y llywodraeth yn cael eu casáu a’u hofni gan y rhai maen nhw’n eu gormesu. Ond wnaeth Iesu estyn allan at y gorthrymwyr yn ogystal â'r gorthrymedig.
Roedd Sacheus yn dymuno gweld pwy oedd Iesu. Gwnaeth yr ymdrech angenrheidiol trwy redeg ymlaen a dringo coeden dim ond i gael golwg glir o Iesu. Byddai Sacheus wedi bod yn fodlon dim ond edrych ar Iesu. Fodd bynnag, cynigiodd Iesu brofiad mwy ystyrlon i Sacheus.
Ar ôl i Sacheus gwrdd Iesu yn bersonol, ni allai bellach barhau â'i fusnes casglu trethi fel o’r blaen. Roedd wedi twyllo pobl o'r blaen, ond roedd yn gwybod bod yn rhaid iddo roi'r gorau i dwyllo ac ad-dalu'r hyn yr oedd wedi'i ddwyn. Roedd Sacheus yn cydnabod mai ei anonestrwydd oedd achos y tlodi o'i gwmpas. Teimlai gyfrifoldeb newydd tuag at ei gymuned.
Mae Sacheus yn enghraifft o rywun oedd eisiau adnabod Iesu go iawn. Yn ei dro, dangosodd Iesu ffordd newydd o fyw iddo. Cofleidiodd Sacheus y peth yn llwyr trwy newid ei werthoedd a’i ymddygiad. Os trown at Iesu, bydd ein bywydau yn cael eu newid.
Y neges o stori Sacheus hefyd yw y gall yr efengyl gyrraedd pawb, hyd yn oed y rhai sy’n llygredig ac sydd wedi cam-drin eraill. P'un ai ti yw'r person mwyaf dirmygus mewn cymdeithas, yn garcharor, yn werthwr cyffuriau, neu'n waeth, mae rhodd iachawdwriaeth Iesu a ffordd newydd o fyw ar gael i ti.
Myfyria neu Drafod
Dewisodd Iesu fod yn westai i Sacheus er bod pobl wedi dweud na ddylai. Pam aeth Iesu i gartref pechadur oedd â chymaint o enw drwg?
Pam wyt ti'n meddwl bod Sacheus, er gwaethaf ei weithredoedd llygredig, eisiau gweld Iesu?
Beth oedd canlyniad ymweliad Iesu ym mywyd Sacheus ac yn ei gymuned?
Ydy Iesu wedi effeithio ar dy fywyd di? Os felly, pa effaith mae hynny'n ei gael ar dy gymuned?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bobl hyn o gyrion cymdeithas obeithio cysylltu â Duw sanctaidd? Yn seiliedig ar fewnwelediadau o lyfr Luc yn yr ‘Africa Study Bible’, dilyna Iesu wrth iddo bontio'r bwlch rhwng Duw a'r rhai sydd ar y cyrion.
More