Dilyn Iesu ein CanolwrSampl
Iesu a’r Pechadurus
Doedd Iesu erioed wedi ystyried unrhyw un yn rhy bechadurus i gael maddeuant. Wnaeth e hyd yn oed groesawu’r rhai oedd yn cael eu dirmygu gan weddill y gymdeithas.
Yn yr Africa Study Bible cymer olwg ar “The Scent of Forgiveness”:
Dŷn ni i gyd yn methu â byw fel mae Duw yn dweud wrthon ni am fyw. Mae ein pechodau yn brifo eraill, weithiau'n ddwfn. Mae credinwyr go iawn yn hiraethu am gael maddeuant, gan Dduw a chan y person dŷn ni wedi'i frifo.
Yn y stori hon, roedd gwraig bechadurus gymaint eisiau ffeindio maddeuant nes iddi feiddio mynd i mewn i dy arweinydd crefyddol pwysig. Chafodd hi mo’i gwahodd, roedd yn annheilwng, ac yn ddigroeso. Mewn gostyngeiddrwydd, taflodd ei hun i lawr o flaen Iesu. Dechreuodd grïo. Syrthiodd ei dagrau ar ei draed, a chusanodd ei draed a sychodd y dagrau â'i gwallt. Wrth iddi arllwys persawr drud ar ei draed, roedd yr arogl yn llenwi'r ystafell.
Mae’n bosibl y bydd neu na fydd pobl eraill yn maddau i ni pan fyddwn wedi gwneud cam â nhw. Ond pan dŷn ni'n taflu ein hunain i lawr mewn gostyngeiddrwydd wrth draed Iesu â chalon sydd wedi torri dros ein pechodau, dydy e ddim yn ein gwthio i ffwrdd. Mae'n dweud wrthon ni, “Mae dy bechodau wedi eu maddau.”
Myfyrio a Thrafod
Roedd y wraig yn y stori hon wedi byw bywyd pechadurus iawn ac wedi cyflawni drwg mawr yng ngolwg Duw. Pam ydych chi'n meddwl fod Iesu wedi maddau iddi?
Ydych chi’n teimlo’n annheilwng i gael eich galw’n blentyn i Dduw? Pam neu pam ddim?
Os cyffeswch eich pechodau i Iesu, a wneith faddau i chi? Beth mae’r stori hon yn ei ddysgu i ni am barodrwydd Duw i faddau i ni?
Sut dylen ni ymateb i’r maddeuant hwnnw?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bobl hyn o gyrion cymdeithas obeithio cysylltu â Duw sanctaidd? Yn seiliedig ar fewnwelediadau o lyfr Luc yn yr ‘Africa Study Bible’, dilyna Iesu wrth iddo bontio'r bwlch rhwng Duw a'r rhai sydd ar y cyrion.
More