Dilyn Iesu ein CanolwrSampl

Iesu a’r Ofnus
Does dim ofn mor fawr fel na all Iesu ein helpu ni i’w wynebu. Does yna ddim tywyllwch rhy ddwfn i'w oleuni e dreiddio drwyddo.
Yn y Africa Study Bible cymer olwg ar “The Light of Life”:
Mewn llawer man, mae’r cyfnos yn dod ag ofn ac ofn perygl sy’n llechu. Mae’r rhan fwyaf o ddrygioni a throseddau dan orchudd tywyllwch. Mae gweithredoedd dewiniaeth a dieflig, lladrad a llofruddiaeth, anfoesoldeb a meddwdod yn aml yn digwydd mewn tywyllwch. Mae llofruddwyr, ysbrydion drwg, a'r rhai sy'n ymhél â thrio cysylltu â’r meirw yn cuddio dan orchudd tywyllwch. Mae pobl yn ansicr beth sydd yng nghysgod y tywyllwch, felly maen nhw'n edrych ymlaen at y wawr.
Ond gydag Iesu, nid oes angen i neb ofni'r tywyllwch oherwydd pan ddewisi di ei ddilyn byddi di ddim yn cerdded yn y tywyllwch ddim mwy, ond yn llawenydd ei oleuni. Yn wir, caiff ei alw’n Oleuni’r Byd yn Efengyl Ioan. Rhaid i unrhyw un sydd am gael ei oleuo gan bresenoldeb Crist - sy'n rhoi gobaith a chyfeiriad i fywyd - uniaethu â Christ trwy ffydd. Dyma’r unig ffordd “bydd dy fywyd i gyd yn olau fel petai lamp yn disgleirio arnat ti.” (Luc 11:36). Caniatáu i Iesu, Goleuni'r Byd, lenwi'ch bywyd yw'r unig ffordd i osgoi bod yn sownd yn nhywyllwch y byd a'i bleserau twyllodrus.
Myfyrio neu Drafod
Mae 1 Ioan 1:5 yn dweud, “Golau ydy Duw; does dim tywyllwch o gwbl ynddo.” Pam mae'n arwyddocaol bod Iesu'n cael ei alw'n Oleuni'r Byd, ac nad oes tywyllwch ynddo?
Sut byddet ti'n disgrifio'r gwahaniaeth rhwng byw bywyd yn y tywyllwch a byw bywyd yn y golau? Pa fywyd wyt ti eisiau byw?
Beth yw'r ofnau neu'r tywyllwch yn dy fywyd sy'n cadw goleuni ei fywyd rhag disgleirio trwodd? Wnei di ofyn iddo ddod i lewyrchu ei oleuni sy’n puro ym mhob cornel dywyll o'th fywyd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bobl hyn o gyrion cymdeithas obeithio cysylltu â Duw sanctaidd? Yn seiliedig ar fewnwelediadau o lyfr Luc yn yr ‘Africa Study Bible’, dilyna Iesu wrth iddo bontio'r bwlch rhwng Duw a'r rhai sydd ar y cyrion.
More
Cynlluniau Tebyg

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Ymarfer y Ffordd

Rhoi iddo e dy Bryder

Coda a Dos Ati
