Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio Duw TrwyddoSampl

Seek God Through It

DYDD 3 O 10

Wyt ti erioed newydd gael digon a dweud, "Duw, os na wnei di ei wneud, dw i ddim yn siŵr y gallaf i ddygymod"?

Weithiau mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd yng nghanol cythrwfl a dioddefaint parhaus. Hyd yn oed wrth geisio cadw'r ffydd, tueddwn i'w weld yn llithro i ffwrdd oddi wrthon ni.

Gad i ni edrych ar y fenyw gyda'r gwaedlif. Roedd hi wedi bod â’r cyflwr am 12 mlynedd. Roedd hi mewn poen am 12 mlynedd. Dioddefodd am 12 mlynedd. Gallaf ddychmygu ei bod, yn ôl pob tebyg, wedi gweddïo a bod pobl eraill wedi gweddïo drosti am 12 mlynedd.

Mae Marc 5:26 yn dweud iddi ddioddef llawer, wedi gweld llawer o feddygon, a dim ond wedi gwaethygu.

Dw i'n gallu ymdeimlo ȃ hyn oherwydd, i rai, mae'n ymddangos fel pe bai bywyd ond wedi dod â mwy a mwy o drawma. Waeth pwy dŷn ni'n siarad ȃ nhw - teulu, ffrindiau, therapyddion, gweinidogion - mae'r boen dŷn ni'n ei deimlo yn gwaethygu.

Gwnaeth y ddynes hon benderfyniad yn ei hisymwybod. Roedd hi'n credu pe bai hi'n cyffwrdd â'i ddillad, y byddai hi'n cael ei gwneud yn gyfan. Y ffydd yn yr hyn roedd yn chwilio amdano a’i gwnaeth yn gyfan. Gwthiodd trwy dyrfaoedd, ei phoen, a'i gwaedlif - ei phrofiad trawmatig - i gyrraedd Iesu.

Bydd ceisio Duw yn arwain at y lle yn unig, nid lle, ond Y MAN adfer ac iachâd.

Mae yna rai pethau na all dy weinidog, teulu, ffrindiau na therapydd eu trwsio, eu datrys, na'u gwella. Dim ond Duw all dy wneud di, a fi, yn gyfan. Dyma brydferthwch ei geisio e.

Diwrnod 3:

  • Rho amser yn unig i addoli, gan ei wir geisio e.
  • Myfyria ar Marc 5:25-34
Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Seek God Through It

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.

More

Hoffem ddiolch i Brionna Nijah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.brionnanijah.com