Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio Duw TrwyddoSampl

Seek God Through It

DYDD 1 O 10

Mae bywyd yn cyflwyno llawer o heriau, ac i rai pobl, mae'n dechrau yn ifanc. O 5-18 oed, roeddwn i'n cael trafferth gyda meddyliau o hunanladdiad, dicter, iselder ysbryd a phryder. Hyd yn oed ar ôl i mi roi fy nghalon i Grist, roeddwn i'n dal i gael trafferth gydag anobaith. Clywais lawer o negeseuon am ffydd a chariad Duw a oedd yn fy nghysuro ond byth yn fy newid. Y gwir amdani oedd bod y negeseuon hynny yn debycach i anogaeth wnaeth fy helpu i fynd drwy’r wythnos ganlynol. Roedd y tywyllwch, yr iselder, y pryder, a'm brwydr i fyw a maddau yn dal yn amlwg iawn.

Byddwn yn aml yn ceisio gorfodi fy hun i gael ffydd a dadansoddi fy nioddefiadau. Doeddwn i ddim eisiau bod yn Gristion isel ei ysbryd. Roeddwn yn isel fy ysbryd ac yn anffyddiwr, felly doedd bod yn isel fy ysbryd ac yn Gristion ddim yn gwneud synnwyr. (Gallaf wneud drwg i gyd ar fy mhen fy hun.)

Nid tan i mi ddechrau ceisio Duw wnes i ddarganfod fod heddwch yn bosibl a'i fod yn trigo yn ei bresenoldeb e.

Mae tangnefedd Duw yn rhywbeth dŷn ni'n parhau i aeddfedu ynddo trwy arweiniad yr Ysbryd Glân.

Dw i'n credu mai'r person y gallwn uniaethu fwyaf ag e o ran trawma ac iselder yw Job. Roedd Job yn ddyn a ddwedodd dro ar ôl tro ei fod yn dymuno na fyddai wedi’i eni erioed. Roedd bywyd wedi gwneud iddo deimlo nad oedd yn werth ei fyw.

Wyt ti byth yn teimlo bod pethau drwg yn dal i ddigwydd i ti? Waeth beth rwyt ti'n ei wneud neu ddim yn ei wneud, mae bywyd yn parhau i'th frifo a’th fychanu? Ar hyn o bryd mae'n rhaid i ni geisio Duw, hyd yn oed pan dydyn ni ddim yn dymuno.

Coelia fi, dydy ceisio Duw ddim mor anodd ag ydyn ni’n tueddu i feddwl. Mae ceisio Duw, yn union fel wrth geisio unrhyw beth, yn cymryd ymrwymiad. Pan fyddwn yn gweld rhywbeth yn anodd, rydym yn cael ein digalonni'n awtomatig rhag ymrwymiad.

Dechrau chwilio am Dduw gyda'r meddylfryd o dw i'n mynd i fwynhau hwn, ac nid meddylfryd mae hyn yn galed.

Diwrnod: 1

  • Addoli peth cyntaf yn y bore a pheth olaf yn y nos. Mae am ba hyd i fyny i ti. Wrth addoli canolbwyntia ar bwy e
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Seek God Through It

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.

More

Hoffem ddiolch i Brionna Nijah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.brionnanijah.com