Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio Duw TrwyddoSampl

Seek God Through It

DYDD 2 O 10

Mae Duw yn dy weld. Efallai bod hynny'n swnio'n amlwg, ond na, mae'n dy weld di go iawn.

Mae'n gweld pan dŷn ni'n brifo. Mae'n gweld ein poen, ein hofnau cyfrinachol, ein rhwystredigaethau, ein chwantau, ein siomedigaethau, ein dicter, ein gwenu ffug, ein chwerthin ffug. Mae'n gweld pob cam-drin dŷn ni erioed wedi'i ddioddef. Nid yw'n ddall, ac nid yw'n anwybyddu ein crio.

Un o fy hoff adnodau yw Salm 56:8 NLT "Ti’n cadw cofnod bob tro dw i’n ochneidio. Ti’n casglu fy nagrau mewn potel. Mae’r cwbl wedi’i ysgrifennu yn dy lyfr.”

Weithiau dw i'n hoffi ailddarllen yr adnod hon ac atgoffa fy hun nad yw fy nagrau yn ofer. Bod Duw yn ystyried bodau dynol mor werthfawr fel bod ein dagrau ni yn cael eu casglu mewn poteli a'u cofnodi yn y nefoedd.

Hyd yn oed pan nad ydyn ni’n siarad, mae ein dagrau yn siarad geiriau dim ond Duw y gall eu dehongli.

Felly pan fyddwn yn ceisio Duw, dydyn ni ddim yn ei geisio o'r sefyllfa o geisio cael ei sylw, ond o'r sefyllfa dŷn ni ynddo yn barod.

Dŷn ni eisoes wedi cael ei sylw. Dŷn ni yn ei feddyliau e’n barod.

Mae'n bosibl cael heddwch mewn helbul. Dw i'n gwybod ei fod yn swnio'n rhyfedd, ond mae'n bosibl.

Y peth cyntaf sy'n rhaid i ni ei wneud yw dod i wybod pwy yw e. Fedrwn ni ddim ceisio rhywun nad ydym yn ei adnabod, ac allwn ni ddim trystio yn rhywun dydyn ni ddim yn ei adnabod.

Os dw i’n gwybod, tu hwnt i bob amheuaeth, fod Duw yn ddarparydd – y bydd e’n ei ddarparu, ac y gallaf i gael heddwch yn fy sefyllfa bresennol – byddaf yn nesáu at addoliad a gweddi yn wahanol. Fydda i ddim yn ei ystyried yn fandad crefyddol, ond yn gyfle i gael fy ail-lenwi a'm ailgyflenwi yn ei heddwch.

Bydd llawer ohonom yn dweud: Ond dw i’n credu ei fod yn ddarparwr.

Fy ymateb: Os dŷn ni’n credu hynny, pam dŷn ni’n poeni?

Does dim rhaid i mi boeni am unrhyw beth dw i'n gwybod y cymerir gofal ohono. Dim ond pan nad ydw i'n siŵr dwi'n poeni.

Os byddaf yn gofyn i rywun rwy'n gwybod y bydd yn gwneud rhywbeth yn gywir ac yn drylwyr i mi, dw i ddim yn poeni. Dw i ddim yn poeni oherwydd mae gan y person hwn hanes mae modd ei BROFI gyda mi. Dw i’n gwybod y gallaf drystio ynddyn nhw.

OND.

Os byddaf yn gofyn i rywun nad oes gennyf berthynas â nhw wneud rhywbeth i mi, dw i ddim yn siŵr os allan nhw wneud hynny. Dw i’n gobeithio y gallan nhw. Dw i’n agor y drws i boeni.

Diwrnod 2:

  • Addola Dduw ddydd a nos.
  • Myfyria ar bwy ydyw e.
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Seek God Through It

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.

More

Hoffem ddiolch i Brionna Nijah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.brionnanijah.com