Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ceisio Duw TrwyddoSampl

Seek God Through It

DYDD 4 O 10

Gyda’n meddwl naturiol, gall fod yn anodd dirnad, os ydyn ni’n ceisio Duw, fod bywyd yn gwella rhywsut. Nid dyna’r ateb dŷn ni ei eisiau. Yr hyn dŷn ni ei eisiau yw, unwaith y byddwn yn rhoi'r gorau i weddïo am y tro cyntaf am sefyllfa, bydd yn cael ei ddileu. Dŷn ni eisiau i heddwch fod o'n cwmpas er mwyn i ni gael heddwch y tu mewn i ni.

Mae Duw yn dweud y bydd yn rhoi heddwch i ni y tu mewn hyd yn oed pan nad oes heddwch o'n cwmpas. Mae cael ei heddwch e y tu mewn yn golygu na fyddwn byth yn cael ein heffeithio gan yr hyn sy'n digwydd ar y tu allan. Mae ei heddwch yn gwarchod ein calonnau a'n meddwl.

Un darn a oedd bob amser yn fy herio oedd pan ddwedodd Iesu am adael i Dduw deyrnasu yn e n a gwneud beth sy’n iawn yn ei olwg; wedyn byddwn yn cael y pethau eraill yma i gyd. Byddwn yn meddwl: Wel, pa mor hir sydd raid imi wneud hynny hyd nes y bydd yr hyn sydd ei angen arnaf yn cael ei roi i mi? Ar ôl ychydig o ddyddiau, byddwn yn rhoi'r gorau i geisio Duw.

Doedd fy nghalon i ddim yn iawn. Pan fyddi di'n ceisio Duw drosot dy hun yn unig a heb ei adnabod a bod gydag ef, fydd dy ffydd ddim yn cael ei chynnal. Ni fydd cymhellion anghywir byth yn cynhyrchu gwobr gan Dduw. Ni fydd ceisio hunanol byth yn ein cynnal.

Mae Duw eisiau inni geisio ei wyneb, nid ei law. Ceisia ei galon, nid ei allu. Wrth ei wir geisio, cawn y bywyd toreithiog y mae Iesu yn ei ddarparu.

Diwrnod 4:

  • Gweddïa ac addola.
Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Seek God Through It

Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.

More

Hoffem ddiolch i Brionna Nijah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.brionnanijah.com