Ceisio Duw TrwyddoSampl
Mae ceisio Duw yn bwysig. Ond er mwyn ceisio am rywun neu rywbeth, rhaid i ti gael syniad o'i briodoleddau. Mae'r un peth yn wir am Dduw. Rhaid i ni wybod priodoleddau Duw.
Allwn ni ddim cael perthynas achlysurol gyda pwy yw e ar sail yr hyn dŷn ni wedi ei glywed yn y capel, neu'r hyn dŷn ni wedi clywed pobl eraill yn ei ddweud.
Pan fyddwn wedi ein hargyhoeddi, heb unrhyw amheuaeth, fod Duw yn ddarparydd, yn gysurwr, ei fod yn gofalu amdanom, ei fod yn ein gweld, mai ei bresenoldeb yw ein achubiaeth, a mwy na hynny, byddwn yn gweithredu ar y datguddiad hwnnw. Nawr, bydd llawer o bobl yn dweud eu bod yn argyhoeddedig, hyd yn oed os ydyn nhw’n cael trafferth gyda phryder, iselder, a theimladau o roi'r gorau iddi. Ond mae angen i ni gael ein hargyhoeddi yn yr un modd ag yr ydym yn argyhoeddedig ynghylch lliw ein croen. Waeth beth fo'r sefyllfa, ni all neb FYTH ein darbwyllo nad ydym o wedd arbennig. Gwyddom, yn ddiamau, wedd ein croen. Gwyddom, heb amheuaeth, fod gennym galon yn curo ac ymennydd. All dim byd ein hargyhoeddi fel arall.
Rhaid i ni fod yr un mor argyhoeddedig mai Duw yw'r hyn y mae'n dweud ei fod. Mae addewidion Duw yn dal yn berthnasol ac yn weithredol.
Diwrnod 6:
- Myfyria ar bwy yw Duw.
Am y Cynllun hwn
Iselder. Pryder. Mae sbardunau a digwyddiadau trawmatig yn cael effaith feddyliol, emosiynol ac ysbrydol arnom ni. Yn ystod yr amseroedd hyn mae ceisio Duw yn ymddangos yn anodd ac yn ddiangen. Nod y cynllun, "Ceisio Duw Trwyddo" yw dy annog a'th ddysgu sut i fod yn ragweithiol ym mhresenoldeb Duw er mwyn i ti allu profi heddwch Duw, waeth beth fo'th sefyllfa.
More