Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dechrau EtoSampl

Begin Again

DYDD 7 O 7

Y Samariad o Waredwr

Dyma ffaith all achub dy fywyd: Gelyn pennaf person sy’n boddi yw nhw’u hunain. Tra eu bod ganddyn nhw ddigon o egni i sblasio o gwmpas yn y dŵr, Paid â mynd yn agos atyn nhw. Maen nhw mewn stad o banig a byddan nhw’n cydio ynddot ti ac yn achosi i ti a nhw foddi. Jest aros nes eu bod eu hegni wedi pallu. Dim ond wedyn y maen nhw’n barod i gael eu hachub. Mae’r un peth yn wir am unrhyw un sydd angen y Gwaredwr yn ddirfawr yn eu bywydau.

Darllena Luc, pennod 10 adnodau 25-37 eto. Mae’r cwestiwn: ““Athro, beth sydd raid i mi ei wneud i gael bywyd tragwyddol?” A oedd Iesu’n dweud, bydyn “gymydog da” a chei dy achub. Bydd yn Fam Theresa? Na, allwn ni ddim cael ein cyfiawnhau dim ond drwy ddilyn y Gyfraith (Darllena Rhufeiniaid, pennod 3, adnod 20). Pwrpas dysgeidiaeth Iesu oedd gwthio’i wrandawyr yn ddiddiwedd i'r casgliad anorfod mai Gwaredwr oedd eu hunig obaith am iachawdwriaeth.

“Ond rhaid i chi fod yn berffaith, yn union fel mae'ch Tad nefol yn berffaith.”
(Mathew pennod 5, adnod 48)

“Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; 26 a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. (Ioan pennod 11, adnod 25)

“Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi. (Ioan pennod 14, adnod 6)

Dywed Luc pennod 10, adnod 27 cara Duw a phobl. Beth mae caru dy gymydog yn debyg i go iawn? Yn anhygoel o anhunanol, aberthol, ac yn groes i ddiwylliant a synnwyr cyffredin.

Mae “Dos dithau a gwna'r un fath.” (Luc pennod 10, adnod 37) bron yn golygu dal ati i wneud hyn heb seibiant. Y math o gariad at gymydog y mae Duw ei eisiau - os ydym i gael ein cyfiawnhau gan y Gyfraith. Pwy sy’n dangos trugaredd? “Pobl grefyddol” fel yr Offeiriad neu’r Lefiad?

Wnaiff dy grefydd mo’th achub! Y Samariad, yr un mwyaf annhebygol sy’n troi allan i fod yn Waredwr>

Wyt ti wedi teimlo’n anobeithiol yn y ffos o’r blaen? Wyt ti wedi gweiddi geiriau tebyg i’r Samariad o Waredwr oherwydd dy fod yn gwybod mai e yw dy gyfle olaf?

“Iesu! Fab Dafydd! Helpa fi!” Bartimeus ddall (Marc pennod 10, adnod 47)
“O Dduw, ti ydy fy Nuw i! Dw i wir yn dy geisio di. Mae fy enaid yn sychedu amdanat.
Mae fy nghorff yn dyheu amdanat, fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr. Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr, a gweld dy rym a dy ysblander! (Salm 63, adnod 1-2).

Neu wyt ti’n adnabod rhywun sydd dal i wrthod Crist am mai e yw’r ateb annhebygol i’w hanghenion bydol a thros dro? Mae gen ti berthynas neu ffrind rwyt wedi bod yn ymestyn allan ato/ati Pam na wnei di gymryd amser i weddïo drosto/drosti nawr.

Fel person yn mynd drwy ddyffryn tywyll du a thamp gyda matsien yn ei llaw. Er trio a thrio, mae popeth yn rhy damp i gynnau. Ond yna pan rwyt ti’n gweddïo, mae gwynt yr Ysbryd yn cychwyn chwythu a dechrau sychu’r tamprwydd. A mwyaf sydyn mae yna newid! Mae’r tân yn dechrau llosgi yng nghalonnau dynion a merched lleol - ac maen nhw’n ei basio mlaen i eraill - nes bod y dyfyn cyfan yn llosgi gyda Duw. Dyna beth yw pwysigrwydd gweddi.
Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Begin Again

Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!

More

Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: