Dechrau EtoSampl
Y Samariad Caredig
Gad imi drio ail adrodd y stori mewn fersiwn mwy cyfoes.
Pilipiniad yn teithio o Manila i Angeles. Ei eiddo wedi’i ddwyn, wedi’i guro, ei stripio, Daeth offeiriad heibio a gweinidog. Wnaeth run o’r ddau stopio i helpu’r Pilipiniad druan. Sylweddolais nad ydy crefydd yn dy achub!.
Yna daeth Americanwr 60 oed gyda HIV Aids heibio, gyda briwiau agored o gwmpas ei geg. Mae’n cymryd trugaredd dros y Pilipiniad yn y ffos ac yn ei helpu. Pa ddyn wyt ti’n uniaethu ag e? - yr Americanwr gydag AIDS neu'r Pilipiniad yn y ffos.
Roedd Iddewon yn edrych lawr ar Samariaid - rhai aflan a chymysg eu hil, ddim gwell na chi. Yn ddiwylliannol, Samariad fyddai’r un diwethaf y byddet ti’n disgwyl i helpu Iddew.
A dweud y gwir pe bai gan y dyn yn y ffos unrhyw egni ar ôl byddai mwy na thebyg wedi dweud wrth y Samariad, “Na! Gad lonydd imi. Fedra i ofalu amdanaf fy hun...” Y peth diwethaf fydde fe eisiau yw cael ei gyffwrdd gan Samariad aflan.
Sawl gwaith bydd help yn cael ei gynnig, ond fel yr Iddew balch yn y ffos, gwrthod help Iddew fydde e, allasai eu hachub.
Mae Duw’n gweithio mewn ffyrdd annisgwyl drwy’r bobl fwyaf annhebygol.
Dydy hi ddim yn cymryd fawr o amser i sylweddoli’r hyn adawyd gyda’r Cyfreithiwr oedd y sylweddoliad mai:
Fi yw’r Iddew mewn angen yn y ffos! Mae fy holl ymdrechion i fod yn ddigon da, etifeddu bywyd tragwyddol fel carpiau budron! Fyddaf i byth ddigon da!
Dw i dda i ddim! Wedi fy nghuro bron i farwolaeth, fy eiddo wedi’i ddwyn, a chael fy stripio.
Os na ddaw rhywun heibio, mae hi ar ben arnaf i!
Mae Satan yn dod i ddwyn, lladd a difrodi, ond mae Iesu wedi dod fel ein bod yn cael bywyd a’i gael yn helaeth!
Unig obaith y cyfreithiwr hwn i etifeddu bywyd tragwyddol yw - ffydd yn y Meseia annisgwyl hwn, Iesu o Nasareth. Yr Iesu hwn oedd yn mynd i farw ar groes. Wyt ti’n gwybod fod unrhyw un sy’n marw ar groes yn cael ei ystyried fel un sydd yn felltigedig? Felly, sut all Gwaredwr ddod o groes felltigedig?
♥ Mae angen Iesu’r Gwaredwr o Samariad o’th fewn ac sy’n dy alluogi i garu dy gymydog fel ti dy hun.
Galwad i Weithredu:
(1) Galwa ar Iesu heddiw am iachawdwriaeth. Mae e’n disgwyl iti gyfaddef dy fod yn ddiymadferth ac anobeithiol fel y dyn yn y ffos. Mae e wedi dod atat a chynnig help, ond rwyt wedi bod yn gwrthod ei help. Heddiw yw dy gyfle di! Galwa arno! Iesu, Fab Dafydd, trugarha wrtho i! “Bydd pawb sy'n galw ar enw'r Arglwydd yn cael eu hachub.’ (Actau, pennod 2, adnod 21).
(2) Galwa ar Iesu heddiw am orffwys. “Dewch ata i, bawb sy'n cael eich llethu gan feichiau trwm, a rhof i orffwys i chi. Dewch gyda mi o dan fy iau, er mwyn i chi ddysgu gen i. Dw i'n addfwyn ac yn ostyngedig, a chewch chi orffwys. Mae fy iau i yn gyfforddus a dw i ddim yn gosod beichiau trwm ar bobl.”
Gad iddo dywallt y gwin ac olew ar gyfer glanhau ac iachau. Gad iddo ddod â thi i le o orffwys - i orwedd mewn porfa hyfryd.
(3) Galwa ar Iesu heddiw i ymrwymo eich hun i wasanaethu a gwrando ar Ei alwad.
“Mae'r cynhaeaf mor fawr, a'r gweithwyr mor brin! Felly, gofynnwch i Arglwydd y cynhaeaf anfon mwy o weithwyr i'w feysydd. 3 Ewch! Dw i'n eich anfon chi allan...” (Luc, pennod 10, adnodau 2-3)

Am y Cynllun hwn
Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!
More
Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: