Dechrau EtoSampl
Profiad y Ffordd i Ddamascus
Mae tröedigaeth Saul ar y ffordd i Ddamascus wedi’i ailadrodd sawl gwaith ac yn symbol o sawl tröedigaeth - y rhai hynny gafodd eu cyffwrdd gan ras yr Ysbryd Glân a dechrau o’r newydd. Cafodd bywyd Paul ei newid pan roddodd ei fywyd yn nwylo Duw. Cofia mai Saul oedd enw Paul yn wreiddiol. Paid cael dy ddrysu gan y ddau enw.
Yn Actau, pennod 2, adnodau 1-2 roedd dilynwyr Crist yn cael eu hadnabod fel pobl “Y Ffordd” oherwydd mae Cristnogion yn honni mai’r unig ffordd at Iachawdwriaeth yw Iesu Grist. (Darllena Ioan, pennod 14, adnod 6). Roedd Paul yn arweinydd Iddewig balch a doedd e ddim eisiau cyfaddef fod ei grefydd yn anghywir.
Dechreuodd Saul ar ei daith i Ddamascus gyda marwolaeth ar ei feddwl - i erlyn dilynwyr “Y Ffordd”. Ar y ffordd i Ddamascus fflachiodd golau disglair o’r nefoedd o’i gwmpas. Yna, clywodd lais yn dweud, “Saul? Saul? Pam wyt ti'n fy erlid i?” (Actau, pennod 9, adnod 4). Pan ofynnodd Saul i’r llais pwy oedd yna, atebodd y llais, ““Iesu ydw i,...yr un rwyt ti'n ei erlid. Nawr cod ar dy draed a dos i mewn i'r ddinas. Cei di wybod yno beth mae'n rhaid i ti ei wneud.” (Actau, pennod 9, adnodau 5-6).
Dydy Ananias ddim wedi’i argyhoeddi fod Saul wedi dod i gredu yn Iesu. Yn adnod 11 dwedodd yr Arglwydd wrth Ananias mai gweld Saul yn gweddïo fyddai’n ei ddarbwyllo ei fod wedi newid.
Roedd Saul yn ddall! Cafodd Saul ei ddarostwng gan Dduw fel ei fod yn sylweddoli gymaint oedd angen Iesu arno. Pan mae person yn anobeithiol mae Iesu'n dod yn agos. Yn ôl Actau 9:19b-22 cafodd Saul droad 180 gradd yn ei fywyd, newid radical.
Dyma ddisgrifiad Paul o beth ddigwyddodd iddo - ac i ni sy’n credu yng Nghrist - Darllena 2 Corinthiaid, pennod 5, adnod 17. Does dim llawer o bobl yn cael profiad dramatig, ffordd i Ddamascus fel Saul ond dylai bob un ohonom allu dweud, “Mae fy mywyd wedi newid ers imi ddod i adnabod Iesu Grist.” A fedri di ddweud hynny? A fedri di rannu cyfnod pan gest ti dy ddarostwng gan Dduw fel dy fod yn agosáu ato?
Yn y foment honno o ofn, difaru ac ymwybyddiaeth deallodd Saul mai Iesu oedd y gwir Meseia. A’i fod wedi helpu i lofruddio a charcharu pobl ddieuog. Sylweddolodd Paul, er gwaethaf beth oedd yn ei gredu o’r blaen fel Pharisead, ei fod yn gwybod nawr y gwirionedd am Dduw a’i bod yn ofynnol nawr i ufuddhau iddo.
Yn y foment honno ac yn ddiymdroi daeth Saul yn ddyn newydd. Roedd wedi’i aileni. Dewisodd nodi’r awr honno o drawsnewidiad drwy newid o’i enw Hebreig, Saul, i Paul - er mwyn dechrau eto.

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!
More
Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: