Dechrau EtoSampl
“Stad o Argyfwng” Yr Ail Ddyfodiad
Pan fyddwn yn edrych o’n cwmpas ar drychinebau naturiol fel daeargrynfeydd a tswnamis, ansefydlogrwydd gwleidyddol ac aflonyddwch, awyrennau bomio hunanladdiad ac ymosodiadau terfysgol, mae’n hawdd teimlo ein bod mewn “stad o argyfwng.” Mae yna gryn ansicrwydd am y dyfodol. Ond dŷn ni’n gwybod i sicrwydd: Mae Iesu yn dod nôl a bydd y ddaear yn cael ei ddinistrio gan dân.
Wrth i ni fod yn dystion i genhedloedd yn datgan “stad o argyfwng” mewn sawl sefyllfa wahanol, gad i ni ystyried os dylen ni fod mewn “stad o argyfwng” ysbrydol wrth i ni baratoi am Ail Ddyfodiad Iesu!
Yn 2 Pedr, pennod 3, adnodau 1-13, mae Pedr yn dweud bod yr addewid fod Iesu yn dod eto am ddigwydd. Beth mae Pedr yn ei ddweud yn adnod 10 fydd yn digwydd i’r ddaear hon? Bydd y ddaear yn cael ei dinistrio gan dân. Darllena adnod 8 eto. Beth wyt ti’n ei feddwl mae hyn yn ei olygu?
Yn adnod 9 pam fod Duw’n disgwyl i gyflawni ei addewid i ddod eto a dinistrio’r ddaear? Oherwydd, dydy e ddim eisiau i neb farw. Yr unig reswm mae Duw’n oedi’r digwyddiad terfynol hwn o hanes y byd ydy ei fod yn dymuno i neb farw ond y dylai pawb yn edifarhau.
Darllena adnod 14. Dylai’r sicrwydd o Ail Ddyfodiad Iesu a dinistr y ddaear gan dân effeithio’r ffordd dŷn ni’n byw ein bywyd bob dydd. Beth mae’r adnod hon yn ei ddweud am sut y dylen ni fyw ein bywydau? Dylem fod yn ddi-nam, yn ddi-fai ac mewn heddwch ag e. Dyma ein galwad i ddechrau eto. I ddechrau o'r newydd.
Pe byddet yn gwybod fod yr Ail Ddyfodiad yn mynd i ddigwydd 3 mis o heddiw, beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol? Rho enghreifftiau o bethau y byddet ti’n stopio eu gwneud a dechrau eu gwneud.
Darllena adnod 14 eto. Wrth i ti ystyried sut rwyt ti’n byw dy fywyd, beth yw’r pethau rwyt ti angen eu gwneud i fod mewn heddwch gyda Duw?
Gyda hyn oll mewn cof, wyt ti’n barod i’w gwrdd? Os nad wyt, baswn i’n cael dy hun yn barod! Pan fyddwn yn clywed neges fel hyn, dylai wneud pobl sydd ar goll ystyried y perygl difrifol maen nhw ynddo e, ac achosi iddyn nhw redeg at Grist mewn edifeirwch. Fel mae adnod 10 yn ein hatgoffa, pan fydd ynddo, bydd yn ddigwyddiad sydyn!
Nawr, gad i ni chwilio ein calonnau ac os oes yna achosion sydd angen eu setlo, tyrd â nhw at Iesu, a pharatoi ar gyfer y daith. Oherwydd mae Iesu yn dod.
Dylai’r gwirioneddau hyn gynhyrfu calonnau pobl Dduw ac achosi i ni fod eisiau agosáu gymaint ag y gallwn at Iesu, fel ein bod yn yr amser sydd ar ôl, gael ein defnyddio i gyffwrdd y byd hwn. Mae yna dorfeydd o’n cwmpas ymhobman sydd heb dderbyn Iesu fel eu Gwaredwr. Falle mai ti fydd yn llwyddo i’w cyrraedd.
Wrth i ti feddwl am y pethau hyn, pwy wyt ti’n ei feddwl mae Duw eisiau i ti siarad â nhw'r wythnos hon? Sawl perthynas agos, ffrindiau a chymdogion sydd gen ti, sydd dal angen dod i adnabod Iesu mewn ffordd ddofn a phersonol? Gad i ni stopio a gweddïo drostyn nhw nawr Gweddïa y byddan nhw’n dod at Iesu cyn ei Ail Ddyfodiad a dinistr y byd drwy dân.
Amser Gweddi:
Gweddïa fod gennym synnwyr o frys (stad o argyfwng) am y ffaith ein bod yn byw yn y dyddiau olaf cyn yr Ail Ddyfodiad a diwedd y byd.
Gweddïa y bydd Duw’n dy arwain at y bobl y mae e eisiau i ni rannu'r Newyddion Da am Iesu gyda nhw.

Am y Cynllun hwn
Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!
More
Hoffem ddiolch i Mr Boris Joaquin, Llywydd a Phrif Swyddog Offer, Breakthrough Leadership Management Consultancy Mae e’n hyfforddwr penigamp ac yn siaradwr heb ei ail ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a sgiliau ysgafn eraill yn y Pilipinas. Gyda’i wraig, Michelle Joaquin, cyfrannodd i’r cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: