Dechrau EtoSampl
Duw y Dechreuadau Newydd. Doedd ganddi ddim syniad pwy oedd hi’n mynd i gwrdd y diwrnod hwnnw, a sut y byddai e yn newid ei bywyd. Roedd hi wedi bod yn briod bum gwaith a nawr gyda rhywun oedd ddim yn ŵr iddi. Falle (fel gwnaeth rai ysgolheigion dybio) aeth i godi dŵr am hanner dydd achos doedd neb arall yn mynd yno bryd hynny. Falle nad oedd hi yn aelod derbyniol o’r gymdeithas. Falle ei bod wedi’i halltudio oherwydd ei dewisiadau moesol. Yn sicr, fel gwraig o Samaria, doedd hi ddim yn disgwyl i Iesu siarad efo hi'r diwrnod hwnnw - na gofyn iddi am ddiod. Dwedodd ei hun, “Iddew wyt ti. Sut alli di ofyn i mi am ddiod?” Gwyddai am “y gwahaniaethau”. Ond gwyddai Iesu beth oedd yn ei wneud, roedd yn llawenydd mawr iddo - fel bwyd ar stumog wag. Gwyddai pwy oedd hi, a gwyddai beth a Phwy roedd arni ei angen. Do, fe wnaeth e ofyn am ddiod iddi, roedd yn ddynol ac wedi blino’n lân yn haul poeth canol dydd. Ond, yna, cynigodd iddi ddŵr bywiol iddi fel na fyddai’n sychedu byth eto. Roedd ei bywyd yn dangos gymaint oedd ei hangen ac i’w chalon ffeindio ei gartref. A dyma fe - y Meseia, ei chartref. Dyma’r wraig yn gadael ei hystên dŵr, a ddefnyddiai i leddfu ei syched, ac aeth yn ôl i’w phentref i ddweud wrth y bobl am y dyn ddwedodd wrthi bopeth roedd wedi’i wneud erioed, a gofyn y cwestiwn fyddai’n gwneud i bawb ddarganfod dros eu hunain, “Allai e fod y Meseia tybed?” (adn. 29). Daeth llawer o bobl i gredu oherwydd beth ddwedodd hi (adn. 39-42). Pan ddangosodd Iesu iddi beth roedd hi wedi’i wneud a chynnig iddi fywyd fel na fyddai’n sychedig eto, trodd ei bywyd hi ben ei waered. Roedd hi wedi derbyn maddeuant, yn teimlo gras, ac wedi cael bywyd newydd. Roedd hi’n boddi yng nghras y Newyddion Da ac yn rhedeg at bawb roedd yn ei adnabod o ganlyniad i’r bywyd newydd roedd wedi’i dderbyn, a daeth llawer i’r Bywyd eu hunain. Rhoddodd ei dechrau newydd hi ddechrau newydd i eraill. Dyma oedd llawenydd Crist. Cwestiynau i fyfyrio drostynt: 1. Gellid dweud bod y jar dŵr oedd ganddi n cynrychioli ei hymdrechion i lenwi ei chalon â chariad dynion. Ond wnaeth hynny erioed fodloni hiraeth dwfn ei chalon. Beth amdanat ti? Gyda beth wyt ti’n llenwi dy jar ddŵr? Pa mor dda mae dy galon wedi’i fodloni? 2. Cynigiodd Iesu i'r wraig o Samaria yr hyn a fyddai'n wirioneddol fodloni ei chalon: ei Hun. Roedd yn gwybod am ei phechodau ac yn cynnig beth fyddai’n rhoi bywyd gwirioneddol iddi. Mae Iesu’n cynnig yr un peth i ti. Mae’n dy adnabod di a’r bywyd nad yw’n bodloni’n llawn go iawn - ac felly’n cynnig i ti ei hun - y dŵr bywiol. Hoffet ti dderbyn y rhodd hwn o Ddŵr y Bywyd a phrofi dechreuadau newydd yn dy fywyd?
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Blwyddyn Newydd. Diwrnod Newydd. Creodd Dduw'r trawsnewidiadau hyn i'n hatgoffa i gyd mai fe yw Duw Dechreuadau Newydd. Os gall Duw ddod â'r byd i fodolaeth drwy siarad, gall, yn sicr, siarad mewn i dywyllwch dy fywyd, gan greu i ti ddechreuad newydd. Onid wyt ti'n caru dechreuadau newydd! Jest hoffa'r cynllun darllen hwn. Mwynha!
More