Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl
![Scaling Leadership with Biblical Wisdom](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F19658%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Gorffwys
"Deffra cyn pawb arall a gweithia i mewn i ganol nos. Bydd brysur." - Gary Vaynerchuk.
Bydd brysur yw'r dywediad poblogaidd ar y funud gan rai sy'n mentro ac arweinwyr busnes. Beth bynnag sy'n digwydd, mae angen i ti fod yn brysurach na dy gystadleuwyr. Rho waith i bawb a gwna bopeth sy'n bosibl. Gwna gymaint â sy'n bosibl a mwy! Dyma sydd wedi dod yn beth ellid ei alw'n reol euraidd os wyt ti eisiau llwyddo mewn busnes.
Paid â fy ngham deall i, fe fydd digon o gyfnodau a thymhorau ble bod yn brysur yw'r ateb iawn. O siarad yn gyffredinol, mae meddylfryd at waith yn bwysig dros ben, ac yn aml yn rywbeth coll mewn cyfartaledd uchel o genedlaethau'r dyfodol. Fel un ifanc oedd yn mentro roedd bod yn brysur yn ran enfawr o'm strategaeth. a dw i'n gallu gweld nawr pam bu llwyddiant. Gwasanaethais mewn gweinidogaeth ac arwain timoedd ble roedd bod yn brysur ac t=ymdrech lew yn ffactor allweddol ddefnyddiodd Duw i ddod â llwyddiant arwyddocaol i'r Deyrnas.
Fodd bynnag, peryg dw i nid yn unig wedi'i weld ond wedi'i brofi yw prysurdeb heb reolaeth ac yn brin o orffwys. Dw i wedi taro'r wal sawl gwaith yn ystod y degawdau diwethaf am nad oedd gen i barch iachus iawn at orffwys. Mae'n werth sôn mod i wedi taro ambell i wal fu bron a rhoi diwedd ar fy ngalwad ac allan o'r gorau roedd gan Duw ar gyfer fy mywyd. Dw i'n gallu edrych nôl nawr a gweld mai'r rheswm am hyn oedd diffyg gorffwys cyfannol.
Mae Cynyddu arweinyddiaeth yn ddibynnol iawn ar olwg iachus a duwiol o orffwys. Fel arweinwyr mae'n bwysig i ni sylweddoli nad ydyn ni'n beiriannau ac ddylen ni ddim actio fel ein bod ni felly. Lle da i ddechrau yw drwy sylweddoli nad gwendid yw gorffwys. Dw i wedi cwrdd gymaint o arweinwyr, ifanc a hen, sy'n ymddangos fel eu bod yn gwisgo bathodyn diarhebol o anrhydedd oherwydd eu diffyg cwsg. Dŷn ni angen cael gwared o'r meddylfryd yma am ei fod yn afresymol. Does dim anrhydedd i ddiffyg cwsg a gweithio heb fawr ddim egni ar ôl. (Cynllun Beibl sy'n dangos y realiti fod cwsg yn weithgaredd ysbrydol yw Lifehacks: Practical Tips For Godly Habits'. Dw i'n argymell yn fawr iawn y cynllun pwerus hwn.)
Wyt ti'n sylweddoli fod cwsg yn un o'r chwiliadau Gwgl mwyaf poblogaidd? Mae'r rhyngrwyd wedi'i or-lwytho gan y chwiliadau hyn. Os nad wyt ti wedi chwilio am gwsg neu gymorth i gysgu rwyt ti'n y lleiafrif. Os byddi'n troi i Gwgl am gymorth i gysgu fe ddoi di ar draws ymchwiliadau gwyddonol diddiwedd sy'n sôn am beryglon diffyg cwsg. Mae rhai canlyniadau mor eithafol â clefyd y galon, iselder ysbryd, colli cof, a marwolaeth. Mae bod yn brysur a pheidio gorffwys i atgyfnerthu yn arwain at sgîl-effeithiau mawr sy'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fwy o salwch, llai o gynhyrchiant, diffyg ffocws, ac ansefydlogrwydd emosiynol.
Mae cynyddu ein harweinyddiaeth angen meddylfryd gwaith, prysurdeb, a dyfalbarhad. Ond sylweddola fod gorffwys yn bwysig. Rhannodd Iesu â'i ddisgyblion a'r Phariseaid, “Cafodd y dydd Saboth ei roi er lles pobl, dim i gaethiwo pobl." Rhoddodd ein Creawdwr y gallu i ni gynhyrchu, adeiladu, a gweithio, ond rhoddodd i ni y gallu i orffwys ar y Saboth.
Gad i ni edrych ar ddarlleniad heddiw a gofyn i Dduw chwilio ein calonnau. Falle fod gennym olwg wyrgam ar orffwys, angen cyfeiliornus i berfformio, neu deimlad y mae angen i ni ennill ein cymeradwyaeth gan Dduw sy'n ein harwain at ddiffyg gorffwys.
O Dduw, chwilia fy nghalon a siarad â fi drwy dy Air. Datgela i mi ble dw i ddim yn cofleidio'r rhodd yn llawn o orffwys.
Am y Cynllun hwn
![Scaling Leadership with Biblical Wisdom](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F19658%2F1280x720.jpg&w=3840&q=75)
Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tîm, ac economeg symudol yw rhai o'r materion dŷn ni'n dod ar eu traws. Ond paid â meddwl bod cynyddu ein harweinyddiaeth ar gyfer y gweithle'n unig. Mae'n rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref ac yn ein perthynas ag eraill. Cymer y cam heddiw i gael mewnwelediad arweinyddiaeth ymarferol, perthnasol.
More
Cynlluniau Tebyg
![Ymarfer y Ffordd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F42239%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymarfer y Ffordd
![Hadau: Beth a Pham](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44130%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Hadau: Beth a Pham
![Coda a Dos Ati](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43961%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Coda a Dos Ati
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
![Dwyt ti Heb Orffen Eto](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40720%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dwyt ti Heb Orffen Eto
![Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44796%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist
![P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F40702%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw
![Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F43442%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd
![Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F50414%2F320x180.jpg&w=640&q=75)
Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F320x180.jpg&w=640&q=75)