Cynyddu Arweinyddiaeth gyda Doethineb BeiblaiddSampl

Dim digon o amser mewn bywyd
Wyt ti'n cael du hun yn gobeithio neu weddïo am fwy o amser yn y dydd? Mae gormod i'w gyflawni a dim digon o amser. Rwyt ti'n dyfalbarhau i'r eithaf, a phan mae hynny'n ormod i ti, rwyt ti'n sylweddoli, waeth bynnag beth ti'n wneud, nad yw hynny fyth yn ddigon. Fe allwn i gynnig sawl esiampl, ond dw i'n tybio dy fod yn deall yn iawn, ac yn gallu uniaethu â hyn. Nid dim ond ti. Mae hyn yn ffenomen gyffredin mewn arweinyddiaeth. Does fyth digon o amser.
Mae gen i arweinydd anhygoel ar fy nhîm sy'n tynnu sylw at hyn yn gyson. Beth am ei alw yn Trent. Mae'n dweud yn gyson ei fod yn gweithio i'r eithaf, hyd at 120 y cant i 150 y cant yn ei brojectau. Mae e'n dweud ei fod yn "gwneud ei orau glas" Fel arweinydd, dw i'n hapus iawn i wybod fod aelodau fy nhîm yn gwneud eu gorau glas. Ar y llaw arall, mae'n rhaid i ni sylweddoli mor bwysig yw ein geiriau, y naratif maen nhw'n eu creu a'r meddylfryd sy'n tyfu'n eu sgil. Does dim y fath beth â rhoi mwy na 100%. Mae'n ymarferol amhosib, felly gad i ni beidio defnyddio iaith felly.
Y diwrnod o'r blaen arweiniodd y cysyniad yma at "onestrwydd radical" mewn sgwrs. Ro'n i eisiau i ddod ag eglurder i'r lens sydd ei hangen i edrych ar fywyd a gwaith o ran egni ac ymdrech. Mae'r ffaith fod aelod fy nhîm yn dweud ei fod wedi ymdrechu gymaint â hynny, yn afluniaidd ac angen ei addasu. Yn y pen draw heriais Trent i dderbyn nad oes digon o amser mwn bywyd.
Do, wnest ti ddarllen hynny'n iawn. Dw i'n argymell a chredu bod angen i ni gynyddu ein harweinyddiaeth yn briodol drwy dderbyn nad oes digon o amser mewn bywyd! Dw i'n gwybod fod hyn yn wrth-ddiwylliannol i bopeth mae'r byd yn taflu atom ond gad imi esbonio. Os yw bywyd yn cael beth sydd dros ben, mae hynny dim ond am fod Duw beth sydd orau. Cymer amser i wirioneddol ystyried hyn yn dy feddwl a'th enaid. Ni ddylai ein gorau glas fynd i'n perthnasoedd daearol, patrwm gwaith, gyrfaoedd, neu ein cyllidau. Dylai ein gorau glas fynd ar ein perthynas â Duw, doed a ddelo.
Drwy'r Beibl cyfan dŷn ni'n darllen am fendith a ffafr Duw tuag atom. Ond dŷn ni'n anghofio bod Duw'n eiddigeddus ac yn dymuno perthynas ddofn â ni. Mae'r cysyniad hwn yn fyw iawn i mi pan dw i'n darllen Rhufeiniaid, pennod 12. Heriodd Paul y Rhufeiniaid drwy ddweud, "dw i'n apelio ar i chi roi eich hunain yn llwyr i Dduw. Cyflwyno eich hunain iddo yn aberth byw – un sy'n lân ac yn dderbyniol ganddo." Mae pob rhan ohonom i'w ddod yn aberth gerbron Duw. Dyma yw ein haddoliad iddo. Dylai Duw fod y peth cyntaf yn ein bywyd ac yn derbyn ein gorau glas.
O ddifri nawr, cymer olwg ar dy ddiwrnod. Wyt ti'n codi'n gynnar er mwyn gorffen dy waith gynted â sydd bosib ond does gen ti fawr ddim amser i Dduw yn dy ddiwrnod? Ydy dy flaenoriaethau gwaith yn rhoi Duw yn y cysgod? I rhyw straen mewn perthynas sy'n dy rwystro rhag treulio amser gyda Duw? #ta waeth beth yw e, dw i'n dy herio i fynd gerbron Duw, yn rhoi dy orau glas iddo fel ei fod yn gallu lluosogi a rhannu'r hyn sydd eto'n weddill i'w wneud.
Dyma beth dw i'n wybod i sicrwydd: Os wyt ti'n rhoi dy orau glas iddo, bydd Duw'n cymryd yr hyn sy'n weddill ac yn ei fendithio tu hwnt i bob amgyffred. Dim ond gyda mwy o Dduw y bydd y strygl bywyd dŷn ni'n cael ein hunain ynddo, yn cael ei ddatrys, ac nid mwy o ni ein hunain.. Cymer olwg ffres ar dy flaenoriaethau heddiw.
O Dduw, wrth imi plymio mewn i'th Air heddiw, caniatâ fi'r gallu i ble nad yw fy agenda, fy mlaenoriaethau a fy nymuniadau mewn cytgord â'th ewyllys di. Caniatâ i mi dy ras a'th ffafr, nawr, Arglwydd, i weld fel wyt ti'n gweld ac i'th Air i dreiddio i'm calon ac enaid.
Am y Cynllun hwn

Mae cynyddu ein harweinyddiaeth yn hollbwysig heddiw. Rhaid i ni ehangu, chwyddo, datblygu ein harweinyddiaeth i addasu i'n hamgylchedd sy'n newid yn barhaus. Technoleg sy'n esblygu'n gyflym, newid dynameg gweithwyr / tîm, ac economeg symudol yw rhai o'r materion dŷn ni'n dod ar eu traws. Ond paid â meddwl bod cynyddu ein harweinyddiaeth ar gyfer y gweithle'n unig. Mae'n rhaid i ni gynyddu ein harweinyddiaeth gartref ac yn ein perthynas ag eraill. Cymer y cam heddiw i gael mewnwelediad arweinyddiaeth ymarferol, perthnasol.
More
Cynlluniau Tebyg

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Dwyt ti Heb Orffen Eto

Rhoi iddo e dy Bryder

Coda a Dos Ati

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Hadau: Beth a Pham
